William Farren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd William Farren (1839-cyn 1911) yn frawd iau i George Farren ac yn is-reolwr Chwarel yr Eifl, Trefor tua diwedd y 19g.

Mae Cyfrifiad 1901 yn dangos fod ganddo wraig iau o lawer nag ef ei hun, sef Isabel, dynes o Iwerddon a aned ym 1868, a dau o blant William Ignatius, a aned ym 1892 ym Mangor, a Reginald Joseph a aned ym 1896 yng Nghaernarfon. Mae Cyfrifiad 1901 yn dangos nad oedd unrhyw un o'r teulu'n gallu siarad Cymraeg.[1] Erbyn 1911, roedd William Farren wedi marw, ac roedd William y mab yn yr R.A. College, Cirencester,[2] ar ôl cyfnod yng Ngholeg Stonyhurst. Bu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf pan oedd yn gwasanaethu fel Is-gapten yn y Ffiwsilwyr Cymreig.[3] Arhosodd Reginald gyda'i fam yng Nghaernarfon, gan barhau i fyw yn "The Mount", Lôn Priestley, Caernarfon hyd o leiaf 1939, pan nodwyd ei fod yn anabl a ddim yn gweithio.[4]

Claddwyd William Farren ym mynwent Eglwys Llanbeblig, Caernarfon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad 1901, RG13/5272
  2. Cyfrifiad 1911
  3. Gwefan War Memorials Register, [1], cyrchwyd 20.02.2020
  4. Rhagolwg Cyfrifiad 1939, Gwefan Find My Past, (RG101/7530D/005/11) cyrchwyd 20.02.2020