William Hughes, Hyfrydle: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Weslabach (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd y Parch. William Hughes, (1818-1879), yn ŵyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Capel Salem (MC), Llanl...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd y Parch. [[William Hughes]], (1818-1879), yn ŵyr i [[William Dafydd]], y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Llanllyfni]]. Roedd o'n blentyn darllengar yn ôl pob sôn ac wedi darllen y Beibl sawl gwaith drosodd cyn ei fod yn cyrraedd ei 20 oed. Chafodd o fawr o ysgol heblaw am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, ac yn 18 oed cafodd waith fel clerc yn chwarel [[Cloddfa'r Lôn]], swydd a ddaliodd am 41 o flynyddoedd. Codwyd yn flaenor yn [[Llanllyfni]] ym 1842 ac fe ddechreuodd bregethu yn [[Capel Tal-y-sarn (MC)|Nhal-y-sarn]] ym 1844. Fo oedd Ymholydd yr Ysgolion Sul am bron i ugain mlynedd, 1852-70. Ym 1866, symudodd i achos newydd [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]] er mwyn cefnogi'r achos yna.
Roedd y Parch. '''William Hughes''', (1818-1879), yn ŵyr i [[William Dafydd]], y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn [[Capel Salem (MC), Llanllyfni|Llanllyfni]]. Roedd yn blentyn darllengar yn ôl pob sôn ac wedi darllen y Beibl sawl gwaith drosodd cyn ei fod wedi cyrraedd ei 20 oed. Ni chafodd fawr o ysgol heblaw am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, ac yn 18 oed cafodd waith fel clerc yn chwarel [[Cloddfa'r Lôn]], swydd a ddaliodd am 41 o flynyddoedd. Fe'i codwyd yn flaenor yn [[Llanllyfni]] ym 1842 ac fe ddechreuodd bregethu yn [[Capel Tal-y-sarn (MC)|Nhal-y-sarn]] ym 1844. Gwasanaethodd fel Ymholydd yr Ysgolion Sul am bron i ugain mlynedd, 1852-70. Ym 1866, symudodd i achos newydd [[Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn]] er mwyn cefnogi'r achos yna.


Roedd o'n cael ei adnabod fel dyn difrifol, pwyllog a phenderfynol. Nid oedd y gorau o weinidogion i adnabod ei aelodau'n syth, ond yn arweinydd llwyddiannus iawn fel bugail eglwys. Roedd yn brif ysgofydd yr ysgol ddyddiol a gynhelid yn y Capel Mawr, 1856-7, ac yn cefnogwr brwd i'r ysgol a sefydlid yn y pentref. Pan ffurfiwyd Bwrdd Ysgol, cafodd ei ethol arno, a fo oedd ysgrifennydd y Bwrdd hefyd. Gellir dweud, mae'n debyg, mai fo oedd prif symbylydd a hyrwyddwr addysg y pentrerf hyd ei farwolaeth.
Cai ei adnabod fel dyn difrifol, pwyllog a phenderfynol. Nid oedd y gorau o weinidogion i adnabod ei aelodau'n syth, ond yn arweinydd llwyddiannus iawn fel bugail eglwys. Roedd yn brif ysgogydd yr ysgol ddyddiol a gynhelid yn y Capel Mawr, 1856-7, ac yn gefnogwr brwd i'r [[Ysgol Tal-y-sarn|ysgol]] a sefydlwyd yn y pentref. Pan ffurfiwyd Bwrdd Ysgol, cafodd ei ethol arno gan weithredu fel ei ysgrifennydd hefyd. Gellir dweud, mae'n debyg, mai ef oedd prif symbylydd a hyrwyddwr addysg y pentref hyd ei farwolaeth.


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:49, 8 Mehefin 2022

Roedd y Parch. William Hughes, (1818-1879), yn ŵyr i William Dafydd, y pregethwr cyntaf a godwyd gan y Methodistiaid yn Llanllyfni. Roedd yn blentyn darllengar yn ôl pob sôn ac wedi darllen y Beibl sawl gwaith drosodd cyn ei fod wedi cyrraedd ei 20 oed. Ni chafodd fawr o ysgol heblaw am flwyddyn mewn ysgol yng Nghaer, ac yn 18 oed cafodd waith fel clerc yn chwarel Cloddfa'r Lôn, swydd a ddaliodd am 41 o flynyddoedd. Fe'i codwyd yn flaenor yn Llanllyfni ym 1842 ac fe ddechreuodd bregethu yn Nhal-y-sarn ym 1844. Gwasanaethodd fel Ymholydd yr Ysgolion Sul am bron i ugain mlynedd, 1852-70. Ym 1866, symudodd i achos newydd Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn er mwyn cefnogi'r achos yna.

Cai ei adnabod fel dyn difrifol, pwyllog a phenderfynol. Nid oedd y gorau o weinidogion i adnabod ei aelodau'n syth, ond yn arweinydd llwyddiannus iawn fel bugail eglwys. Roedd yn brif ysgogydd yr ysgol ddyddiol a gynhelid yn y Capel Mawr, 1856-7, ac yn gefnogwr brwd i'r ysgol a sefydlwyd yn y pentref. Pan ffurfiwyd Bwrdd Ysgol, cafodd ei ethol arno gan weithredu fel ei ysgrifennydd hefyd. Gellir dweud, mae'n debyg, mai ef oedd prif symbylydd a hyrwyddwr addysg y pentref hyd ei farwolaeth.

Cyfeiriadau