Mary King Sarah: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Yn wreiddiol o Dalysarn, roedd '''Mary King Sarah''' (1875-1955) yn enwog fel cantores; fe enillodd hi sawl wobr yn yr Eisteddfod Genedlaet...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 20 golygiad yn y canol gan 5 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Yn wreiddiol o [[Tal-y-sarn|Dalysarn]], roedd '''Mary King Sarah''' (1875-1955) yn enwog fel cantores; fe enillodd hi sawl wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pherfformiwyd ar draws Cymru ac America.  
[[Delwedd:Mary King Sarah.png|bawd|de|300px|Mary King Sarah]]
 
Yn wreiddiol o [[Tal-y-sarn|Dal-y-sarn]], roedd '''Mary King Sarah''' (1885-1965) yn enwog fel cantores; enillodd sawl gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pherfformiodd ar hyd a lled Cymru ac America.  


==Cefndir==  
==Cefndir==  
Magwyd Mary King Sarah yn Nhalysarn, gyda'i rhieni, ei brodyr a’i chwiorydd (yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd yn byw yn Rhiwlas Road yn Nhalysarn gyda’i thad, mam, ac oedd yn un o bum plentyn.) Tyfodd Mary fyny gyda cherddoriaeth yn ei gwaed gyda dau riant cerddorol. Roedd ei thad, [[Tom Sarah|Thomas Edwin Sarah]] yn arweinydd [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]] am bum deg mlynedd. Symudwyd Thomas Sarah i Dalysarn pan roedd yn blentyn ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr a mecaneg yn y chwarel. Roedd ei mam, [[Sarah Sarah (Seren Aerau)|Sarah Sarah]] yn gantores adnabyddus (Seren Aerau).  
Magwyd Mary King Sarah yn Nhal-y-sarn, gyda'i rhieni, ei brodyr a’i chwiorydd (yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd yn byw yn Rhiwlas Road yn Nhal-y-sarn gyda’i thad a'i mam, ac roedd yn un o bum plentyn.) Tyfodd Mary i fyny â cherddoriaeth yn ei gwaed gyda dau riant cerddorol. Roedd ei thad, [[Tom Sarah|Thomas Edwin Sarah]] yn arweinydd [[Seindorf Arian Dyffryn Nantlle]] am hanner can mlynedd. Mudodd Thomas Sarah i Dal-y-sarn pan oedd yn blentyn a bu ef a’i dad yn gweithio fel gyrwyr a pheirianwyr yn y chwarel. Roedd ei mam, [[Sarah Sarah (Seren Aerau)|Sarah Sarah]] yn gantores adnabyddus (Seren Aerau).  
Roedd gan Mary basiwn am gerddoriaeth ers oedd hi’n blentyn yn [[Ysgol gynradd Talysarn]]. Roedd hi’n cymryd rhan mewn gwasanaethau yng [[Capel Seion, Tal-y-sarn|nghapel Seion]] ar Ddydd Sul ac mewn digwyddiadau eraill yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]].  
 
Yn 21 mlwydd oed fe gystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906 a derbyn tair gwobr. Cystadlodd yn erbyn Ivor Novello ac fe derbyniodd hi'r wobr gyntaf.  
Roedd gan Mary ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth er pan oedd yn blentyn yn [[Ysgol Tal-y-sarn]]. Byddai'n cymryd rhan mewn gwasanaethau yng [[Capel Seion (A), Tal-y-sarn|nghapel Seion]] ar ddydd Sul ac mewn digwyddiadau eraill yn [[Dyffryn Nantlle|Nyffryn Nantlle]]. Roedd yn canu'n aml mewn cyngherddau, yn aml yn yr un rhai â'r [[Y Brodyr Francis|Brodyr Francis]], ac roedd yn gantores boblogaidd a diffuant yng nghyfarfodydd y Diwygiad o 1904 ymlaen.
Yn 1909 fe gafodd y cyfle i fynd draw i America gyda Chôr Meibion Brenhinol Moelwyn. Pan yno dechreuodd cael ei hadnabod a phenderfynodd ei bod eisiau aros. Pan adawodd am ei bywyd yn America fel ‘The Welsh Nightingale’, derbyniodd wobr a rhoddwyd gan y dyffryn sef oriawr a chadwyn aur. Mae'r anrhydedd honno nawr yn nwylo [[Cefin Roberts]] o Lanllyfni.  
Yn 21 mlwydd oed cystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906 a derbyn tair gwobr gyntaf. Cystadlodd yn erbyn Ivor Novello a hi a dderbyniodd y wobr gyntaf.
Yn 1909 fe gafodd y cyfle i fynd draw i America gyda Chôr Meibion Brenhinol y Moelwyn. Pan oedd yno dechreuodd gael ei hadnabod fel cantores o fri a phenderfynodd ei bod eisiau aros. Pan adawodd Ddyffryn Nantlle am ei bywyd yn America fel ‘The Welsh Nightingale’, derbyniodd rodd gan drigolion y dyffryn, sef oriawr a chadwyn aur. Mae'r rhodd honno nawr yn nwylo [[Cefin Roberts]] o Lanllyfni, perthynas iddi.
 
 
==Llinell Amser - America==
Dechreuodd ei bywyd yn America ym 1909 yn 24 mlwydd oed. Yn fuan ar ôl iddo fudo yno fe fudodd ei rhieni a’i dwy chwaer ati.
 
Yn 28 mlwydd oed priododd â Leonard Ernst Schoen. Gyda chanu'n rhoi straen ar ei llais a'i chorff, penderfynodd droi at nyrsio. Daeth Mary yn feichiog ym 1914 ond bu farw eu mab cyntaf, Osborn, ar ei enedigaeth. Cawsant ail fab o’r enw Hayden, a gafodd fyw i fod yn 50 oed. Daeth tro ar fyd wedi geni Hayden.  Ar Fai 27ain 1916 bu farw ei thad yn 61 mlwydd oed ar yr un diwrnod ag y collodd hithau ei thrydydd plentyn ar ei enedigaeth. Ganwyd ei merch gyntaf, Evelyn Louise Devine, ar Ragfyr 24ain 1918, a merch arall wedyn ar Chwefror 27ain 1923, Doris May.
 
Ym 1923, dim ond pum mis ar ôl genedigaeth Doris, bu farw gŵr Mary. I gynnal y teulu aeth Mary i weithio mewn siop ddillad merched ac mewn swyddfa. Ond ni throdd ei chefn ar ganu.  Pan oedd yn Waukesha, Milwaukee fe gasglodd Gymry’r ardal ynghyd a ffurfiodd y Cymric Choral Society. Fe’u gwahoddwyd i ganu mewn côr o chwe chant yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1933.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth Mary i weithio i Gwmni Moduron Waukesha a pharhaodd yn brysur yn cefnogi Cymanfaoedd Canu.
Ym 1946 priododd Evan. L. Thomas, perchennog gwasg Waukesha. Hannai ei deulu o Geredigion. Ym 1951 fe fu farw ei hail ŵr ac aeth hithau i fyw gyda'i merch Evelyn a’i gŵr yn Efrog Newydd.
Ym 1959 fe ymwelodd Mary â Chymru am y tro olaf gyda chôr o America. Buont mewn eisteddfodau lleol ac Eisteddfod Gydwladol Llangollen a chafodd ei chroesawu’n aelod o’r Orsedd yng Nghastell Caernarfon wythnos y Brifwyl yn yr hen dre.
Ym 1960 a 1961 ymwelodd â Phoenix, Arizona ac yno priododd am y trydydd tro â’r Parch David Lewis Jones. Bu ef farw ym 1962 ac fe aeth hi i fyw gyda'i theulu yn North Syracuse, Efrog Newydd.  Bu hithau farw yn Efrog Newydd ym 1965 yn 80 oed.
 
==Cerdd ffarwelio==
 
Ysgrifennodd [[Y Brodyr Francis|Griffith Francis]] benillion addas iawn i gofio am Mary King cyn iddi adael am America:
 
  '''Mary King'''
  ''Beth ddaeth dros dy galon Mary?''
  ''Mary, beth sy’n codi i’th ben?''
  ''Wyt ti wedi blino canu''
  ''Ar lwyfanau Cymru wen?''
  ''Pam yr ei o Ddyffryn Nantlle''
  ''I’r Amerig gyda’r Côr?''
  ''Wyt ti’n meddwl am dy gartre’''
  ''Yn y wlad tu hwnt i’r môr?''
 
  ''Maddau im am ofyn cwestiwn''
  ''Efo’r tannau ar ‘Llwyn Onn’.''
  ''Nid wyf fi ond carreg ateb''
  ''I galonau’r dyrfa hon;''
  ''Pan hêd brân a’i chwrawc o’r dalaith''
  ''Caiff brain eraill lai o gam;''
  ''Pan hed eos annwyl ymaith''
  ''Fe fydd pawb yn gofyn pam…''
 
Ym Medi 2010 cyhoeddwyd y llyfr ''Mary King Sarah'' gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Yr awdur yw Aelwen Roberts.<ref>www.uwchgwyrfai.cymru/catalog/llyfrau</ref>
 
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}


==Llinell Amser-America==
[[Categori:Pobl]]
Dechreuodd ei bywyd yn America yn 1909 yn 24 mlwydd oed. Yn fuan ar ôl symud yno fe symudodd ei rhieni a’i ddwy chwaer ati.
[[Categori:Cantorion]]
Yn 28 mlwydd oed priododd Leonard Ernst Schoen. Daeth Mary yn feichiog yn 1914 ond bu farw eu mab cyntaf, Osborn, y diwrnod hwnnw yn ystod genedigaeth. Yn lwcus iddi, cawsant ail fab o’r enw Hayden, bu fyw Hayden tan oedd yn 50 oed.
Buan newidiodd pethau wedi geni Hayden, ar Fai 27ain 1916 bu farw ei thad yn 61 mlwydd oed a’i thrydydd plentyn ar y diwrnod a anwyd yn 1916 hefyd. Ganwyd ei merch gyntaf yn 1918, Evelyn Louise Devine, ar Rhagfyr 24ain 1918, a merch arall wedyn ar Chwefror 27ain 1923, Doris May.
Yn 1923,dim ond pum mis ar ôl genedigaeth Doris mae gŵr Mary yn marw. Trowyd Mary at weithio mewn siop ddillad merched ac mewn swyddfa i gynnal teledu. Pan oedd yn Waukesha, Milwaukee fe gasglodd Cymry’r ardal ynghyd a ffurfiodd y Cymric Choral Society. Fe’u gwahoddwyd i ganu mewn côr o chwe chant yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1933.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth Mary I weithio I Gwmni Moduron Waukesha a pharhaodd yn brysur yn cefnogi Cymanfaoedd Canu.
Yn 1946 priododd Evan. L. Thomas, perchennog gwasg Waukesha y daeth ei deulu o Geredigion. Yn 1951 fu farw ei ail gwr a symudodd hithau i fyw gyda'i merch Evelyn a’i gwr yn Efrog Newydd.
Yn 1959 fe ymwelodd Mary a Chymru am y tro olaf gyda chôr o America ac ymwelodd ag eisteddfodau lleol ac Eisteddfod Gydwladol Llangollen a chafodd ei chroesawu’n aelod o’r Orsedd yng Nghastell Caernarfon wythnos y Brifwyl yn yr hen dre.
Yn 1960 a 1961 ymwelodd â Phoenix, Arizona ac yno priododd am y trydydd tro gyda’r Parch David Lewis Jones. Bu ef farw yn 1962 ac fe oedd hi i fyw gyda'i theulu yn North Syracuse, Efrog Newydd.
Fe bu farw hithau ar ôl yn 1965 yn 80 oed yn Efrog Newydd.
Cerdd
Ysgrifennodd Griffith Francis benillion addas iawn I gofio Mary King cyn iddi adael i America:
Mary King
Beth ddaeth dros dy gallon Mary?
Mary, beth sy’n codi I’th ben?
Wyt ti wedi blino canu
Ar lwyfanau Cymru wen?
Pam yr ei o Ddyffryn Nantlle
I’r Amerig gyda’r Cor?
Wyt ti’n meddwl am dy gartre’
Yn y wlad tu hwnt I’r mor?
Maddau im am ofyn cwestiwn
Efo’r tannau ar ‘Llwyn Onn’.
Nid wyf fi ond carreg ateb
I galonau’r dyrfa hon;
Pan hed bran a’I chwrawc o’r dalaith
Caiff brain eraill lai o gam;
Pan heb eos annwyl ymaith
Fe fydd pawb yn gofyn pam…

Golygiad diweddaraf yn ôl 14:18, 18 Ebrill 2022

Mary King Sarah

Yn wreiddiol o Dal-y-sarn, roedd Mary King Sarah (1885-1965) yn enwog fel cantores; enillodd sawl gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol a pherfformiodd ar hyd a lled Cymru ac America.

Cefndir

Magwyd Mary King Sarah yn Nhal-y-sarn, gyda'i rhieni, ei brodyr a’i chwiorydd (yn ôl Cyfrifiad 1891 roedd yn byw yn Rhiwlas Road yn Nhal-y-sarn gyda’i thad a'i mam, ac roedd yn un o bum plentyn.) Tyfodd Mary i fyny â cherddoriaeth yn ei gwaed gyda dau riant cerddorol. Roedd ei thad, Thomas Edwin Sarah yn arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle am hanner can mlynedd. Mudodd Thomas Sarah i Dal-y-sarn pan oedd yn blentyn a bu ef a’i dad yn gweithio fel gyrwyr a pheirianwyr yn y chwarel. Roedd ei mam, Sarah Sarah yn gantores adnabyddus (Seren Aerau).

Roedd gan Mary ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth er pan oedd yn blentyn yn Ysgol Tal-y-sarn. Byddai'n cymryd rhan mewn gwasanaethau yng nghapel Seion ar ddydd Sul ac mewn digwyddiadau eraill yn Nyffryn Nantlle. Roedd yn canu'n aml mewn cyngherddau, yn aml yn yr un rhai â'r Brodyr Francis, ac roedd yn gantores boblogaidd a diffuant yng nghyfarfodydd y Diwygiad o 1904 ymlaen.

Yn 21 mlwydd oed cystadlodd yn Eisteddfod Genedlaethol Caernarfon 1906 a derbyn tair gwobr gyntaf. Cystadlodd yn erbyn Ivor Novello a hi a dderbyniodd y wobr gyntaf.

Yn 1909 fe gafodd y cyfle i fynd draw i America gyda Chôr Meibion Brenhinol y Moelwyn. Pan oedd yno dechreuodd gael ei hadnabod fel cantores o fri a phenderfynodd ei bod eisiau aros. Pan adawodd Ddyffryn Nantlle am ei bywyd yn America fel ‘The Welsh Nightingale’, derbyniodd rodd gan drigolion y dyffryn, sef oriawr a chadwyn aur. Mae'r rhodd honno nawr yn nwylo Cefin Roberts o Lanllyfni, perthynas iddi.


Llinell Amser - America

Dechreuodd ei bywyd yn America ym 1909 yn 24 mlwydd oed. Yn fuan ar ôl iddo fudo yno fe fudodd ei rhieni a’i dwy chwaer ati.

Yn 28 mlwydd oed priododd â Leonard Ernst Schoen. Gyda chanu'n rhoi straen ar ei llais a'i chorff, penderfynodd droi at nyrsio. Daeth Mary yn feichiog ym 1914 ond bu farw eu mab cyntaf, Osborn, ar ei enedigaeth. Cawsant ail fab o’r enw Hayden, a gafodd fyw i fod yn 50 oed. Daeth tro ar fyd wedi geni Hayden. Ar Fai 27ain 1916 bu farw ei thad yn 61 mlwydd oed ar yr un diwrnod ag y collodd hithau ei thrydydd plentyn ar ei enedigaeth. Ganwyd ei merch gyntaf, Evelyn Louise Devine, ar Ragfyr 24ain 1918, a merch arall wedyn ar Chwefror 27ain 1923, Doris May.

Ym 1923, dim ond pum mis ar ôl genedigaeth Doris, bu farw gŵr Mary. I gynnal y teulu aeth Mary i weithio mewn siop ddillad merched ac mewn swyddfa. Ond ni throdd ei chefn ar ganu. Pan oedd yn Waukesha, Milwaukee fe gasglodd Gymry’r ardal ynghyd a ffurfiodd y Cymric Choral Society. Fe’u gwahoddwyd i ganu mewn côr o chwe chant yn Ffair y Byd yn Chicago yn 1933.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd aeth Mary i weithio i Gwmni Moduron Waukesha a pharhaodd yn brysur yn cefnogi Cymanfaoedd Canu. Ym 1946 priododd Evan. L. Thomas, perchennog gwasg Waukesha. Hannai ei deulu o Geredigion. Ym 1951 fe fu farw ei hail ŵr ac aeth hithau i fyw gyda'i merch Evelyn a’i gŵr yn Efrog Newydd.

Ym 1959 fe ymwelodd Mary â Chymru am y tro olaf gyda chôr o America. Buont mewn eisteddfodau lleol ac Eisteddfod Gydwladol Llangollen a chafodd ei chroesawu’n aelod o’r Orsedd yng Nghastell Caernarfon wythnos y Brifwyl yn yr hen dre.

Ym 1960 a 1961 ymwelodd â Phoenix, Arizona ac yno priododd am y trydydd tro â’r Parch David Lewis Jones. Bu ef farw ym 1962 ac fe aeth hi i fyw gyda'i theulu yn North Syracuse, Efrog Newydd. Bu hithau farw yn Efrog Newydd ym 1965 yn 80 oed.

Cerdd ffarwelio

Ysgrifennodd Griffith Francis benillion addas iawn i gofio am Mary King cyn iddi adael am America:

  Mary King

  Beth ddaeth dros dy galon Mary?
  Mary, beth sy’n codi i’th ben?
  Wyt ti wedi blino canu
  Ar lwyfanau Cymru wen?
  Pam yr ei o Ddyffryn Nantlle
  I’r Amerig gyda’r Côr?
  Wyt ti’n meddwl am dy gartre’
  Yn y wlad tu hwnt i’r môr?
  Maddau im am ofyn cwestiwn
  Efo’r tannau ar ‘Llwyn Onn’.
  Nid wyf fi ond carreg ateb
  I galonau’r dyrfa hon;
  Pan hêd brân a’i chwrawc o’r dalaith
  Caiff brain eraill lai o gam;
  Pan hed eos annwyl ymaith
  Fe fydd pawb yn gofyn pam…

Ym Medi 2010 cyhoeddwyd y llyfr Mary King Sarah gan Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai. Yr awdur yw Aelwen Roberts.[1]

Cyfeiriadau

  1. www.uwchgwyrfai.cymru/catalog/llyfrau