John Roberts, trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''John Roberts''' (1916 - 2016), a fu | '''John Roberts''' (1916 - 2016), a fu byw am y rhan fwyaf o'i oes yn [[Y Groeslon]], oedd trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1959 a 1979. Fe'i ganwyd yn Lerpwl, ond oherwydd iechyd bregus ei fam bu'n byw gyda'i nain yn Llangian nes iddo fod yn 7 oed, a chyfrifai ei hun felly'n un o Lŷn. Bu'n gweithio gyda chwmni o beirianwyr sifil yn Lerpwl, ac wedyn ym Môn ac Arfon. Ar ôl cyfnod fel gweithiwr fferm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe raddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe a dechrau ar yrfa ym maes gwasanaethau ieuenctid. Bu'n gweithio i'r Urdd am ddeng mlynedd yn Llanelli a Chaernarfon cyn cael swydd fel Gweinyddwr [[Coleg Glynllifon]]. Ym 1959, cychwynnodd ar gyfnod o 20 mlynedd fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.<ref>John Roberts, ''Yr Helygen Gam'', (Caernarfon, 2007), clawr ôl</ref> | ||
Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, ''Yr Helygen Gam'', ac yntau'n 91 oed. | Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, ''Yr Helygen Gam'', ac yntau'n 91 oed. | ||
Bu'n ffrind agos i'r Dr. [[John Gwilym Jones]]. Tua diwedd ei oes, bu [[Arthur Wyn Parry]] yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac | Bu'n ffrind agos i'r Dr. [[John Gwilym Jones]]. Tua diwedd ei oes, bu [[Arthur Wyn Parry]] yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yna symud i gartref gofal Gwynfa yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed a'i gof yn dal yn fyw iawn.<ref>Gwybodaeth bersonol</ref> | ||
Ac yntau'n dathlu ei ganfed | Ac yntau'n dathlu ei ganfed pen-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram oddi wrth Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"!<ref>''Daily Post'', 21.7.2016 [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/national-eisteddfod-icon-turned-down-11314333]</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:39, 14 Ebrill 2022
John Roberts (1916 - 2016), a fu byw am y rhan fwyaf o'i oes yn Y Groeslon, oedd trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol rhwng 1959 a 1979. Fe'i ganwyd yn Lerpwl, ond oherwydd iechyd bregus ei fam bu'n byw gyda'i nain yn Llangian nes iddo fod yn 7 oed, a chyfrifai ei hun felly'n un o Lŷn. Bu'n gweithio gyda chwmni o beirianwyr sifil yn Lerpwl, ac wedyn ym Môn ac Arfon. Ar ôl cyfnod fel gweithiwr fferm yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fe raddiodd yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe a dechrau ar yrfa ym maes gwasanaethau ieuenctid. Bu'n gweithio i'r Urdd am ddeng mlynedd yn Llanelli a Chaernarfon cyn cael swydd fel Gweinyddwr Coleg Glynllifon. Ym 1959, cychwynnodd ar gyfnod o 20 mlynedd fel trefnydd yr Eisteddfod Genedlaethol.[1]
Cyhoeddodd gyfrol o straeon byrion yn 2007, Yr Helygen Gam, ac yntau'n 91 oed.
Bu'n ffrind agos i'r Dr. John Gwilym Jones. Tua diwedd ei oes, bu Arthur Wyn Parry yn ffrind a estynnodd lawer o gymorth iddo er iddo fyw'n annibynnol hyd nes iddo golli ei goes trwy afiechyd, ac yntau ymhell yn ei 90au, ac yna symud i gartref gofal Gwynfa yng Nghaernarfon cyn marw yn 100 oed a'i gof yn dal yn fyw iawn.[2]
Ac yntau'n dathlu ei ganfed pen-blwydd, gwrthododd y cyfle o dderbyn telegram oddi wrth Frenhines Lloegr gan ddeud "Tydi hi ddim yn gwybod pwy ydw i"![3]