Richard Wilson: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cledrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
[[Delwedd:Mengs - Richard Wilson.jpg|bawd|de|200px|Portread o Richard Wilson gan Anton Raphael Mengs(1752)]]
[[Delwedd:Mengs - Richard Wilson.jpg|bawd|de|200px|Portread o Richard Wilson gan Anton Raphael Mengs(1752)]]
Hanai '''Richard Wilson''' (1713-1782) yr arlunydd byd-enwog o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny, roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i [[Richard Garnons]] o Golomendy, Sir Ddinbych, a [[Plas Du|Phlas Du]], [[Dyffryn Nantlle]].<ref>''Y Casglwr'', Rhif 50, (1993), tt.9-12</ref>
Hanai '''Richard Wilson''' (1713-1782), yr arlunydd byd-enwog, o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i [[Richard Garnons]] o Golomendy, Sir Ddinbych, a [[Pant Du|Phant Du]], [[Dyffryn Nantlle]].<ref>''Y Casglwr'', Rhif 50, (1993), tt.9-12</ref>


Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn ur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser i Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos efo Garnons a Phlas Du y rheswm am iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth i ble fyddai fo wedi aros, ym Mlas Du neu yn nhŷ'r teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.
Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn bur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser a ymwelodd ag Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos â Garnons a Phant Du yn rheswm iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ymhle y byddai wedi aros, ai ym Mhant Du ynteu yn y tŷ a oedd gan y teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.


Perthynas agos iddo oedd [[David Wilson]] a gadwodd ysgol yn [[Ffrwd]], [[Llandwrog]] rhwng 1787 a 1789.




Llinell 11: Llinell 12:




==Darlun o'r Wyddfa o Lyn Nantlle==
 
==Darlun Wilson o'r Wyddfa o Lyn Nantlle==
[[Delwedd:Richard Wilson - Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|bawd|de|400px|''Yr Wyddfa o Lyn Nantlle'' (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl]]
[[Delwedd:Richard Wilson - Snowdon from Llyn Nantlle - Google Art Project.jpg|bawd|de|400px|''Yr Wyddfa o Lyn Nantlle'' (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl]]


Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw [[Llyn Nantlle Isaf]], sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ym mhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth [[Baladeulyn]] oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth [[Llyn Nantlle Uchaf]]. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, y ffaith fod y tir o flaen yr artist wedi cywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent hyd yn oed.
Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw [[Llyn Nantlle Isaf]], sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ymhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth [[Baladeulyn]] a oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth [[Llyn Nantlle Uchaf]]. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, gellid dweud fod y tir yn y blaendir wedi ei gywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent mewn gwirionedd.


Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cwchod - tystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau neu ffriddoedd ar y dde o ddiddordeb. Mae'r mwg yn codi o waith copr [[Drws-y-coed]].  
Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cychod - dyma dystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau a'r ffriddoedd ar y dde yn ddiddorol. Mae'r mwg sydd i'w weld yn codi o waith copr [[Drws-y-coed]].  




Llinell 28: Llinell 30:
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Pobl]]
[[Categori:Artistiaid]]
[[Categori:Artistiaid]]
[[Categori:Arlunwyr]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 15:04, 11 Ebrill 2022

Portread o Richard Wilson gan Anton Raphael Mengs(1752)

Hanai Richard Wilson (1713-1782), yr arlunydd byd-enwog, o Benegoes, Sir Drefaldwyn lle 'roedd ei dad yn ficer. Ar ochr ei fam, roedd yn perthyn i deulu Plas Coed-llai, Sir Ddinbych, a thrwy hynny roedd yn gyfyrder (ail gefnder) i Richard Garnons o Golomendy, Sir Ddinbych, a Phant Du, Dyffryn Nantlle.[1]

Roedd Wilson yn enwog am ei dirluniau, ac un o'r rhai mwyaf enwog yw'r hwnnw o'r Wyddfa o Ddyffryn Nantlle. Roedd Dyffryn Nantlle yn bur ddiarffordd yn y 18g, ac aeth y rhan fwyaf o deithwyr pleser a ymwelodd ag Eryri trwy Dyffryn Ogwen neu Feddgelert. Rhaid felly dybio fod ei berthynas weddol agos â Garnons a Phant Du yn rheswm iddo ymweld â Dyffryn Nantlle - er hyd yn hyn ni chafwyd unrhyw dystiolaeth ymhle y byddai wedi aros, ai ym Mhant Du ynteu yn y tŷ a oedd gan y teulu yng Nghaernarfon, sef Plas Llanwnda.

Perthynas agos iddo oedd David Wilson a gadwodd ysgol yn Ffrwd, Llandwrog rhwng 1787 a 1789.





Darlun Wilson o'r Wyddfa o Lyn Nantlle

Yr Wyddfa o Lyn Nantlle (tua 1766). Oriel Gelf Walker, Lerpwl

Mae'r llun hwn yn un o'r delweddau cynharaf o Ddyffryn Nantlle, ac mae'n ddiddorol iawn gan ei fod yn dangos rhan uchaf y dyffryn cyn i chwareli a mwyngloddio wneud fawr o farc ar y tirlun. Y llyn yn y blaendir yw Llyn Nantlle Isaf, sydd wedi hen ddiflannu dan ysbwriel y chwareli a chynllun traenio. Ymhellach i mewn i'r olygfa, gwelir y striben denau o dir wrth Baladeulyn a oedd yn gwahanu'r llyn isaf oddi wrth Llyn Nantlle Uchaf. Os oes lle i feirniadu realaeth y llun, gellid dweud fod y tir yn y blaendir wedi ei gywasgu er mwyn i'r mynyddoedd edrych yn fwy sylweddol nag y maent mewn gwirionedd.

Sylwer hefyd ar y genweirwyr ar lan y llyn ac ar y cychod - dyma dystiolaeth gynnar am bysgota o'r fath. Hefyd, mae patrwm y caeau a'r ffriddoedd ar y dde yn ddiddorol. Mae'r mwg sydd i'w weld yn codi o waith copr Drws-y-coed.



Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Casglwr, Rhif 50, (1993), tt.9-12