Rhos y Pawl: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Mae '''Rhos y Pawl''' yn rhan o dir [[Comin Uwchgwyrfai]], rhwng pentrefi [[Y Fron]] a [[Nantlle]], ar waelodion [[Mynydd Mawr]] neu Fynydd Grug i bobl leol. Mae ffermydd Caeronwy a Chastell Caeronwy'n gorwedd i'r gogledd-orllewin ohoni. | |||
Tir pur ddiffaith yw'r lle, gydag ond ychydig o le i bori defaid, ymysg y corsydd a'r grug. Yno, fodd bynnag, mae olion un o'r systemau amaethu cynnar gorau sydd i'w gweld yn Eryri. | |||
Mynnodd bod y | |||
==Chwedl Rhos y Pawl== | |||
Ceir stori werin ar lafar am Ros y Pawl, sy'n perthyn i ardal [[Nantlle]]. Ceir enw Rhos y Pawl mewn chwedl ramantus am ŵr a merch ieuanc a oedd eisiau priodi. Roedd tad y ferch, ffermwr [[Tal-y-mignedd Uchaf]] yn anfodlon gyda'r syniad, a dyfeisiodd gynllun i weld fod y mab ifanc yn methu â phrofi ei hun yn gariadfab addas i'w ferch. | |||
Mynnodd bod y gŵr ifanc, oedd yn fab fferm Gelli Ffrydiau yn Nantlle, yr ochr arll i'r dyffryn i Dalmignedd, yn gorfod goroesi noson gyfan yn nhrugaredd elfennau creulon tirwedd Nantlle. Trwy ryw wyrth, llwyddodd y mab hwn i oroesi drwy ei gadw ei hun yn gynnes drwy dorri coed â bwyell, ac edrych ar ffenestr ei gariad, lle yr oedd hithau wedi gosod cannwyll iddo ei gweld. Roedd y bore wedi cyrraedd, a'r mab ifanc wedi byw trwy'r noson oer a chafodd y ddau briodi fel y dymunwyd.<ref>W.R. Ambrose, ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872) tt.53-54; Geraint Thomas, ''Cyfrinachau Llynnoedd Eryri'', (Tal-y-bont, 2011), t.48</ref> | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} | ||
== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori: Chwedloniaeth]] | [[Categori: Chwedloniaeth]] | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:51, 9 Ebrill 2022
Mae Rhos y Pawl yn rhan o dir Comin Uwchgwyrfai, rhwng pentrefi Y Fron a Nantlle, ar waelodion Mynydd Mawr neu Fynydd Grug i bobl leol. Mae ffermydd Caeronwy a Chastell Caeronwy'n gorwedd i'r gogledd-orllewin ohoni.
Tir pur ddiffaith yw'r lle, gydag ond ychydig o le i bori defaid, ymysg y corsydd a'r grug. Yno, fodd bynnag, mae olion un o'r systemau amaethu cynnar gorau sydd i'w gweld yn Eryri.
Chwedl Rhos y Pawl
Ceir stori werin ar lafar am Ros y Pawl, sy'n perthyn i ardal Nantlle. Ceir enw Rhos y Pawl mewn chwedl ramantus am ŵr a merch ieuanc a oedd eisiau priodi. Roedd tad y ferch, ffermwr Tal-y-mignedd Uchaf yn anfodlon gyda'r syniad, a dyfeisiodd gynllun i weld fod y mab ifanc yn methu â phrofi ei hun yn gariadfab addas i'w ferch.
Mynnodd bod y gŵr ifanc, oedd yn fab fferm Gelli Ffrydiau yn Nantlle, yr ochr arll i'r dyffryn i Dalmignedd, yn gorfod goroesi noson gyfan yn nhrugaredd elfennau creulon tirwedd Nantlle. Trwy ryw wyrth, llwyddodd y mab hwn i oroesi drwy ei gadw ei hun yn gynnes drwy dorri coed â bwyell, ac edrych ar ffenestr ei gariad, lle yr oedd hithau wedi gosod cannwyll iddo ei gweld. Roedd y bore wedi cyrraedd, a'r mab ifanc wedi byw trwy'r noson oer a chafodd y ddau briodi fel y dymunwyd.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872) tt.53-54; Geraint Thomas, Cyfrinachau Llynnoedd Eryri, (Tal-y-bont, 2011), t.48