Afon Llifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Afon Llifon''' yn codi yng nghorsydd rhan uchaf plwyf Llandwrog nid nepell o'r Bryngwyn, gan redeg trwy geunant ger Maes Tryfan, dan bo...'
 
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Afon Llifon''' yn codi yng nghorsydd rhan uchaf plwyf [[Llandwrog]] nid nepell o'r [[Bryngwyn]], gan redeg trwy geunant ger [[Maes Tryfan]], dan bont y lôn fawr a'r hen reilffyrdd ger [[Llwyn-y-gwalch]], ac ar draws y caeau nes groesi Lôn Cefn Glyn dan bont na welir bron i mewn i Barc Glynllifon, lle mae'n llifo trwy'r Cwm Coed. O flaen [[Plas Glynllifon]] mae wedi ei ffurfio fel camlas at ddibenion cychod bach ac ati, cyn droi melin y stâd. O'r fan honno, mae'n llifo trwy'r parc, dan [[Pont Plas Newydd|Bont Plas Newydd]] ac i'r môr rhwng ffermydd Tŷ Mawr a Maes Mawr.
Mae '''Afon Llifon''' yn codi yng nghorsydd rhan uchaf plwyf [[Llandwrog]], nid nepell o'r [[Bryngwyn]], gan redeg trwy geunant ger [[Maes Tryfan]]. Yna mae'n mynd dan bont y lôn fawr a'r ddwy hen reilffordd ger [[Llwyn-y-gwalch]], ac ar draws y caeau nes croesi [[Lôn Cefn Glyn]] dan bont nas gwelir bron, ac i mewn i Barc Glynllifon, lle mae'n llifo trwy'r Cwm Coed. O flaen [[Plas Glynllifon]] mae wedi ei ffurfio fel camlas at ddibenion hwylio cychod bach ac ati, cyn mynd ymlaen i droi melin y stâd. O'r fan honno, mae'n llifo trwy'r parc, dan [[Pont Plas Newydd|Bont Plas Newydd]] ac i'r môr rhwng ffermydd Tŷ Mawr a Maes Mawr.


Mae'r afon wedi arfer troi nifer o felinau (gweler [[Melinau Afon Llifon]]. Dichon mai enw'r afon yn cyfeirio at gyflymder y dŵr, yn arbennig ger Maes Tryfan.
Ar un adeg bu'r afon yn troi nifer o felinau (gweler [[Melinau Afon Llifon]]). Dichon bod enw'r afon yn cyfeirio at gyflymder y dŵr, yn arbennig ger Maes Tryfan.


[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ffisegol]]
[[Categori:Afonydd]]
[[Categori:Afonydd]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 20:10, 5 Ebrill 2022

Mae Afon Llifon yn codi yng nghorsydd rhan uchaf plwyf Llandwrog, nid nepell o'r Bryngwyn, gan redeg trwy geunant ger Maes Tryfan. Yna mae'n mynd dan bont y lôn fawr a'r ddwy hen reilffordd ger Llwyn-y-gwalch, ac ar draws y caeau nes croesi Lôn Cefn Glyn dan bont nas gwelir bron, ac i mewn i Barc Glynllifon, lle mae'n llifo trwy'r Cwm Coed. O flaen Plas Glynllifon mae wedi ei ffurfio fel camlas at ddibenion hwylio cychod bach ac ati, cyn mynd ymlaen i droi melin y stâd. O'r fan honno, mae'n llifo trwy'r parc, dan Bont Plas Newydd ac i'r môr rhwng ffermydd Tŷ Mawr a Maes Mawr.

Ar un adeg bu'r afon yn troi nifer o felinau (gweler Melinau Afon Llifon). Dichon bod enw'r afon yn cyfeirio at gyflymder y dŵr, yn arbennig ger Maes Tryfan.