Teulu Evans, Llethr Ddu: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fodheddwyr am ganrifoedd, cyn i'...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol [[Cwm Coryn]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Bu'n gartref i deulu o fân fodheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r linach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.
Mae '''Llethr Ddu''' yn fferm ar lethrau gogleddol [[Cwm Coryn]] ym mhlwyf [[Llanaelhaearn]]. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.


Yr aelodau cyntaf o'r teulu sydd ar glawr yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a mab yntau, Howel ap Dicws a briododd Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William yn priodi Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth.Yn ddiau, daeth y priodasau hyn lewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:
Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn, rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:
  Da i Wynedd oedd eni
  Da i Wynedd oedd eni
  Y tair Nest i'n tir ni.
  Y tair Nest i'n tir ni.
Griffith oedd mab William a Nest, a briododd hwnnw Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Ei fab o, Robert ap Griffith briododd Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wden yn priodi Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwmgware]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]].
Griffith oedd mab William a Nest, a phriododd hwnnw â Catherine ferch Rhys Wynn o'r [[Graeanog]]. Priododd ei fab o, Robert ap Griffith, â Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o [[Elernion]], a'u mab hwythau wedyn yn priodi ag Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis [[Cwm Gwared]], Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf [[Clynnog Fawr]].


Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd staws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i benodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Roedd dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf yn Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Yr oedd Teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] trwy i Charles Evans briodi Elisabeth, merch Huw Lewis o [[Plas-y-bont|Blas-y-bont]], [[Y Bontnewydd]] ym 1761.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.54, 122, 175 ac yn arbennig, t.135</ref>
Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd statws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Bu dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Roedd y teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag [[Uwchgwyrfai]] trwy i Charles Evans briodi ag Elisabeth, merch Huw Lewis o [[Plas-y-bont|Blas-y-bont]], [[Y Bontnewydd]] ym 1761.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), tt.54, 122, 175 ac yn arbennig, t.135</ref>


Erbyn 1840, fodd bynnag, ac efallai lawer gynt, roedd teulu Evans wedi gwerthu'r eiddo gan ganolbwyntio ar eu heiddo yn sir Fôn, lle daethant i gael eu hadnabod fel teulu Henblas, Llangristiolus. Yn y diwedd, aeth nifer o'r meibion awyrion dros y genhedlaethau nesaf i'r egwlys, ac un gangen yn sefydlu yn Eyton Hall, Swydd Henffordd tra arhosai'r brif gangen yn Henblas a Threfeilir tan o leiaf ail hanner y 19g.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.122-3</ref>
Erbyn 1840, fodd bynnag, ac efallai lawer ynghynt, roedd y teulu Evans wedi gwerthu'r eiddo gan ganolbwyntio ar eu heiddo yn sir Fôn, lle daethant i gael eu hadnabod fel y teulu Evans o Henblas, Llangristiolus. Yn y diwedd, aeth nifer o'r meibion ac wyrion y cenedlaethau nesaf i'r eglwys, ac un gangen yn ymsefydlu ym Mhlas Eutun (Eyton Hall), Swydd Henffordd, tra arhosodd y brif gangen yn Henblas a Threfeilir tan o leiaf ail hanner y 19g.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families'' (Horncastle, 1914), t.122-3</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 13:19, 3 Ebrill 2022

Mae Llethr Ddu yn fferm ar lethrau gogleddol Cwm Coryn ym mhlwyf Llanaelhaearn. Bu'n gartref i deulu o fân fonheddwyr am ganrifoedd, cyn i'r llinach o feibion fethu a'r aeres yn priodi.

Yr aelodau cyntaf o'r teulu y ceir cofnod ohonynt yw Tegaryn a'i fab Tomos, mab hwnnw Dicws, a'i fab yntau, Howel ap Dicws a briododd â Nest ferch Ednyfed. Dichon bod Tegaryn yn fyw yn ystod ail hanner y 14g. Priododd mab Howel a Nest, Rhys, â Nest arall, Nest ferch Madog - a'u mab hwythau wedyn, William, yn priodi â Nest ferch Morus Griffith o Dreiorwerth, Sir Fôn, rywbryd tua 1500, gan sefydlu cysylltiad â'r teulu hwnnw a fyddai, yn y pen draw, yn peri i Lethr Ddu fynd yn rhan o ystâd Treiorwerth. Yn ddiau, daeth y priodasau hyn â llewyrch i deulu Llethr Ddu, gan i fardd anhysbys nodi:

Da i Wynedd oedd eni
Y tair Nest i'n tir ni.

Griffith oedd mab William a Nest, a phriododd hwnnw â Catherine ferch Rhys Wynn o'r Graeanog. Priododd ei fab o, Robert ap Griffith, â Sibl ferch Evan ap Hugh ap Madog o Elernion, a'u mab hwythau wedyn yn priodi ag Ann ferch Robert Wynn, Bryncir a'i wraig, Ann (a fu farw 1623) - yr oedd yr Ann honno'n ferch i Maurice ap Elisa o Glenennau. Yr oedd Bryncir a Chlenennau ymysg cartrefi pwysicaf Eifionydd, a'r uniad hwn yn awgrymu yr ystyrid teulu Llethr Ddu ar y pryd ymysg teuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. O'r amser hwnnw, fodd bynnag, mae statws y merched a briodwyd gan feibion y cartref yn mynd yn is, merched o dai lleol megis Cwm Gwared, Cae Dafydd a Bryncroes, plwyf Clynnog Fawr.

Fodd bynnag, priododd Dorothy, unig ferch Griffith ap Robert ac Ann o Fryncir, ddyn o'r enw Evan ap John ap Evan. Ŵyr rheiny oedd William Evans (1692-1748). Ym 1725, fe briododd â Margaret (1693-1765), merch y Dr William Morgan, Canghellor Esgobaeth Bangor. Mae'n debyg mai'r cysylltiadau â Chlenennau a'r Canghellor a gododd statws sgweier Llethr Ddu'n ôl i'r hen ogoniant, ac fe'i penodwyd yn Uchel Siryf Sir Fôn ym 1732 - er ei fod, mae'n bosibl, yn dal i fyw yn Llethr Ddu. Bu dau o'u meibion yn gwasanaethu am flwyddyn fel Uchel Siryf: y mab hynaf Charles Evans (oedd yn byw yn Nhrefeilir, Ynys Môn) yn Uchel Siryf Sir Gaernarfon ym 1752-3; a William Evans o Glan Alaw, Ynys Môn, yn Uchel Siryf Sir Fôn, 1798-9. Roedd y teulu Evans wedi codi o ran eu statws cymdeithasol unwaith eto, mae'n ymddangos. Parheid â'r cysylltiad ag Uwchgwyrfai trwy i Charles Evans briodi ag Elisabeth, merch Huw Lewis o Blas-y-bont, Y Bontnewydd ym 1761.[1]

Erbyn 1840, fodd bynnag, ac efallai lawer ynghynt, roedd y teulu Evans wedi gwerthu'r eiddo gan ganolbwyntio ar eu heiddo yn sir Fôn, lle daethant i gael eu hadnabod fel y teulu Evans o Henblas, Llangristiolus. Yn y diwedd, aeth nifer o'r meibion ac wyrion y cenedlaethau nesaf i'r eglwys, ac un gangen yn ymsefydlu ym Mhlas Eutun (Eyton Hall), Swydd Henffordd, tra arhosodd y brif gangen yn Henblas a Threfeilir tan o leiaf ail hanner y 19g.[2]

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), tt.54, 122, 175 ac yn arbennig, t.135
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.122-3