Lleuar Fawr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 9 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Hen annedd nodedig | Hen annedd nodedig yw '''Lleuar''', neu '''Lleuar Fawr''' nid nepell o [[Llanllyfni|Lanllyfni]] er ei fod ym mlwyf [[Clynnog Fawr]].<ref>[http://www.bangorcivicsociety.org.uk/pages/listedindex/reg.pdf Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.] </ref> Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig, Glenda Carr, y gall fod yn amrywiad ar ''Lleufer'', sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.<ref>Carr, Glenda ''Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd'' (Caernarfon, 2011)</ref> | ||
Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef ''Lleuar Fawr''(adeilad rhestredig) a ''Lleuar | Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef ''Lleuar Fawr'' (adeilad rhestredig) a ''Lleuar Bach''. Roedd ar un cyfnod efallai yn rhan o ystad y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac yn rhan o hen diroedd trefgordd [[Pennarth]]. Glynn oedd cyfenw'r teulu'n wreiddiol, nes i'r etifeddes briodi â milwr o Sais o'r enw George Twisleton, a dyna fu'r cyfenw wedyn o 1660 hyd ddiwedd y teulu yn yr ardal.<ref>J.E. Griffith, ''Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families'', (Horncastle, 1914), t.270.</ref> Mae erthygl ar gael yn nodi manylion am y [[Teulu Lleuar]]. | ||
Mae cofeb i William Glynn (neu Glynne), a fu farw ym 1609, yn [[Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr]].<ref>Ambrose, W. R. ''Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle'' (Penygroes, 1872); Comisiwn Henebion Cymru ''Caernarvonshire:Volume II, Central'', (Llundain, 1960)</ref> | |||
Yn ystod yr 16-17g, bu tiroedd eang yn perthyn i Lleuar, gan ffurfio [[Ystad Lleuar|ystad]] sylweddol. Ceir manylion mewn erthygl ar wahân. | |||
Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten [[George Twisleton]], ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben [[William Ridsdale]]) ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen ni chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepheard yn benodol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/7601-2</ref> Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan [[Ystad Glynllifon]]. | |||
{{eginyn}} | |||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | |||
[[Categori:Safleoedd nodedig]] | [[Categori:Safleoedd nodedig]] | ||
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] | [[Categori:Daearyddiaeth ddynol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:32, 28 Mawrth 2022
Hen annedd nodedig yw Lleuar, neu Lleuar Fawr nid nepell o Lanllyfni er ei fod ym mlwyf Clynnog Fawr.[1] Mae'r ystyr yn amwys, ond cynigia'r arbenigwraig, Glenda Carr, y gall fod yn amrywiad ar Lleufer, sef 'goleuni', ac oherwydd hynny'n deillio o'r ffaith fod Lleuar ar dir agored golau.[2]
Mae bellach wedi ei rannu’n ddwy fferm – sef Lleuar Fawr (adeilad rhestredig) a Lleuar Bach. Roedd ar un cyfnod efallai yn rhan o ystad y Glynniaid o Lynllifon, drwy gysylltiad priodasol, ac yn rhan o hen diroedd trefgordd Pennarth. Glynn oedd cyfenw'r teulu'n wreiddiol, nes i'r etifeddes briodi â milwr o Sais o'r enw George Twisleton, a dyna fu'r cyfenw wedyn o 1660 hyd ddiwedd y teulu yn yr ardal.[3] Mae erthygl ar gael yn nodi manylion am y Teulu Lleuar.
Mae cofeb i William Glynn (neu Glynne), a fu farw ym 1609, yn Eglwys Sant Beuno, Clynnog Fawr.[4]
Yn ystod yr 16-17g, bu tiroedd eang yn perthyn i Lleuar, gan ffurfio ystad sylweddol. Ceir manylion mewn erthygl ar wahân.
Ar farwolaeth ŵyr William Glynn, etifeddodd chwaer iddo, Mary Glynne (1633-1676) yr eiddo. Priododd hi â'r Uwch-Gapten George Twisleton, ac arhosodd yr ystâd fechan yn nwylo ei ddisgynyddion am ryw hanner ganrif nes i'w ŵyr (ac efallai gŵr ei or-wyres Mary, y Cadben William Ridsdale) ei cholli trwy or-fenthyca arian. Yn sicr, o 1720 ymlaen ni chafodd y teulu fawr o fudd o'r ystad gan fod y tenantiaid yn gorfod talu eu rhenti ac ati i'r morgeiswyr, ac un Samuel Shepheard yn benodol.[5] Fe'i prynwyd yn ôl wedyn gan Ystad Glynllifon.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Rhestr o adeiladau cofrestredig yng Ngwynedd, Cymdeithas Ddinesig Bangor.
- ↑ Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Caernarfon, 2011)
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.270.
- ↑ Ambrose, W. R. Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872); Comisiwn Henebion Cymru Caernarvonshire:Volume II, Central, (Llundain, 1960)
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/7601-2