Arfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 5 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Arfon''' oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau  [[Uwchgwyrfai]] ac [[Isgwyrfai]] a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd 1536 pan ddileuwyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf hwyr) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen trinid Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi ae;oadu rheithgorau mawr ac ati.
'''Arfon''' oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau  [[Uwchgwyrfai]] ac [[Isgwyrfai]] a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor, a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd at 1536 pan ddilewyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf ddiweddar) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen ymdrinnid ag Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi aelodau rheithgorau mawr ac ati.


Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio ardal trwy'r ganrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd [[Cyngor Bwrdeistref Arfon]] yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanbarth llywodraeth leol. Ers 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri raniad gweinyddol [[Sir Gwynedd]] - er i Arfon ers 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregin a Dyffryn Ogwen, a heb gynnwys rhannau o hen blwyfi [[Clynnog Fawr]] a [[Llanllyfni]] a dim o blwyf [[Llanaelhaearn]].
Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio'r ardal trwy'r canrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd [[Cyngor Bwrdeistref Arfon]], yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanbarth llywodraeth leol. Er 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri rhaniad gweinyddol [[Sir Gwynedd]] - er i Arfon er 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregyn a Dyffryn Ogwen, a heb gynnwys rhannau o hen blwyfi [[Clynnog Fawr]] a [[Llanllyfni]] a dim o blwyf [[Llanaelhaearn]].


Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol [[Sir Gaernarfon]], yn cynnwys y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun LLewelyn-Williams, ''Crwydro Arfon''. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf y 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).
Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol [[Sir Gaernarfon]], yn cynnwys Y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun Llewelyn-Williams, ''Crwydro Arfon''. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf yr 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).
 
Ystyr ''Arfon'' yw "nesaf at Ynys Môn" - gyda llys y Tywysog yn Aberffraw, digon naturiol oedd defnyddio enw Môn yn y cyd-destun hwn.


[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Rhanbarthau gweinyddol]]
[[Categori:Rhanbarthau gweinyddol]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:02, 23 Mawrth 2022

Arfon oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor, a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd at 1536 pan ddilewyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf ddiweddar) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen ymdrinnid ag Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi aelodau rheithgorau mawr ac ati.

Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio'r ardal trwy'r canrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Arfon, yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanbarth llywodraeth leol. Er 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri rhaniad gweinyddol Sir Gwynedd - er i Arfon er 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregyn a Dyffryn Ogwen, a heb gynnwys rhannau o hen blwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni a dim o blwyf Llanaelhaearn.

Weithiau hefyd fe ddefnyddir yr enw'n fwy cyffredinol i ddynodi rhan ddwyreiniol Sir Gaernarfon, yn cynnwys Y Creuddyn a Dyffryn Conwy - er enghraifft yn llyfr Alun Llewelyn-Williams, Crwydro Arfon. Roedd "Arfon" hefyd yn enw ar etholaeth seneddol yn ystod hanner cyntaf yr 20g (Eifion a Bwrdeistrefi Caernarfon oedd etholaethau eraill Sir Gaernarfon).

Ystyr Arfon yw "nesaf at Ynys Môn" - gyda llys y Tywysog yn Aberffraw, digon naturiol oedd defnyddio enw Môn yn y cyd-destun hwn.