Gareth Maelor Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Ar ôl cyfnod yn y Weinidogaeth, daeth y Parchedig '''Gareth Maelor Jones''' i Uwchgwyrfai fel warden Cartref Bontnewydd; yn y man fe symudodd i f...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Ar ôl cyfnod yn y Weinidogaeth, daeth y Parchedig '''Gareth Maelor Jones''' i [[Uwchgwyrfai]] fel warden [[Cartref Bontnewydd]]; yn y man fe symudodd i fod yn bennaeth Adran Ysgrythur yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]].
[[Delwedd:Gareth Maelor.jpg|bawd|de|350px|Y Gareth Maelor ifanc yn archwilio cymorthion clyweled]]


Fe'i urddwyd yn Dderwydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, Meifod, 2003.
Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, treuliodd gyfnod yn y Weinidogaeth Bresbyteraidd yn Harlech ac Abersoch, gan ddod dan ddylanwad rhai a arloesai ym maes defnyddio deunyddiau clyweled. Wedyn, daeth y Parchedig '''Gareth Maelor Jones''' i [[Uwchgwyrfai]] fel warden [[Cartref Bontnewydd]]; yn y man fe symudodd i fod yn bennaeth yr Adran Ysgrythur yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], gan fyw ym mhentref [[Dinas]], [[Llanwnda]]. Bu'n gyfrifol, ar y cyd â'r Parch. Harri Parri, am sefydlu Gwasg Tŷ ar y Graig, a fu'n gyfrifol hefyd am ryddhau nifer o recordiau, yn cynnwys recordiau cyntaf y canwr enwog Trebor Edwards.<ref>Gwefan Na-Nog, [https://na-nog.com/products/trebor-edwards-sain-scd-2377], cyrchwyd 30.07.2019</ref> Yn ystod ei gyfnod fel athro ym [[Pen-y-groes|Mhen-y-groes]], bu'n rhannol gyfrifol am sefydlu siop lyfrau Cymraeg a fu'n weddol lwyddiannus am nifer o flynyddoedd. Fe ymddeolodd o'r swydd honno ym 1996.<ref>Gwefan "North Wales Live", [https://www.dailypost.co.uk/news/north-wales-news/presenoldeb-duw-drwyr-flwyddyn-2810987], cyrchwyd 30.07.2019</ref>
 
Fe'i hurddwyd yn Dderwydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, Meifod, 2003.
 
Roedd Gareth Maelor (fel y'i gelwid yn aml, heb y Jones) yn awdur toreithiog, yn bennaf ar themâu crefyddol - ond heb fod yn drymaidd, ac wedi'u hanelu at ddarllenwyr iau. Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn plant y Methodistiaid Calfinaidd.<ref>Gwybodaeth bersonol; manylion oddi ar Wicipedia.</ref>
 
Bu farw yn 2006.
 
{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Athrawon]]
[[Categori:Gweinidogion]]
[[Categori:Awduron]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:35, 12 Chwefror 2022

Y Gareth Maelor ifanc yn archwilio cymorthion clyweled

Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, treuliodd gyfnod yn y Weinidogaeth Bresbyteraidd yn Harlech ac Abersoch, gan ddod dan ddylanwad rhai a arloesai ym maes defnyddio deunyddiau clyweled. Wedyn, daeth y Parchedig Gareth Maelor Jones i Uwchgwyrfai fel warden Cartref Bontnewydd; yn y man fe symudodd i fod yn bennaeth yr Adran Ysgrythur yn Ysgol Dyffryn Nantlle, gan fyw ym mhentref Dinas, Llanwnda. Bu'n gyfrifol, ar y cyd â'r Parch. Harri Parri, am sefydlu Gwasg Tŷ ar y Graig, a fu'n gyfrifol hefyd am ryddhau nifer o recordiau, yn cynnwys recordiau cyntaf y canwr enwog Trebor Edwards.[1] Yn ystod ei gyfnod fel athro ym Mhen-y-groes, bu'n rhannol gyfrifol am sefydlu siop lyfrau Cymraeg a fu'n weddol lwyddiannus am nifer o flynyddoedd. Fe ymddeolodd o'r swydd honno ym 1996.[2]

Fe'i hurddwyd yn Dderwydd er Anrhydedd yn Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Cylch, Meifod, 2003.

Roedd Gareth Maelor (fel y'i gelwid yn aml, heb y Jones) yn awdur toreithiog, yn bennaf ar themâu crefyddol - ond heb fod yn drymaidd, ac wedi'u hanelu at ddarllenwyr iau. Bu hefyd yn olygydd cylchgrawn plant y Methodistiaid Calfinaidd.[3]

Bu farw yn 2006.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Na-Nog, [1], cyrchwyd 30.07.2019
  2. Gwefan "North Wales Live", [2], cyrchwyd 30.07.2019
  3. Gwybodaeth bersonol; manylion oddi ar Wicipedia.