Emrys Price-Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Brodor o Lanllechid oedd y Dr. '''Emrys Price-Jones''' (1942-2020) ac fe raddiodd mewn Mathameteg ym Mangor ym 1965. Fe dreuliodd nifer o flynyddoedd fel athro Mathemateg, ac wedyn pennaeth adran Mathemateg yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], ar ôl cyfnod byr yn dysgu'r pwnc yng Nghaergybi. fe ymgartrefodd yn [[Y Groeslon]], hynny'n ddigon naturiol ag ystyried fod ei wraig Elen yn ferch i Ifior Hughes, cyn-bennaeth [[Ysgol Penfforddelen]] yn y pentref. Am flwyddyn neu ddwy yn y 1970au bu'n bennaeth yn Ysgol Uwchradd Penrallt, Pwllheli, cyn symud yn ôl i Ysgol Dyffryn Nantlle fel pennaeth yn y 1980au cynnar. Yno buodd nes ei ymddeoliad.
Brodor o Lanllechid oedd Dr. '''Emrys Price-Jones''' (1940-2020) ac fe raddiodd mewn Mathameteg ym Mangor ym 1962. Treuliodd nifer o flynyddoedd fel athro Mathemateg, ac wedyn fel pennaeth yr adran Fathemateg, yn [[Ysgol Dyffryn Nantlle]], ar ôl cyfnod byr yn dysgu'r pwnc yng Nghaergybi. Ymgartrefodd yn [[Y Groeslon]], hynny'n ddigon naturiol ag ystyried fod ei wraig, Elen, yn ferch i Ifor Hughes, cyn-bennaeth [[Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon|Ysgol Penfforddelen]] yn y pentref. Am flwyddyn neu ddwy yn y 1970au bu'n bennaeth yn Ysgol Uwchradd Penrallt, Pwllheli, cyn symud yn ôl i Ysgol Dyffryn Nantlle fel pennaeth yn y 1980au cynnar. Yno y bu nes ei ymddeoliad.


Roedd yn arbenigwr mewn dwyieithrwydd plant, pwnc yr enillodd radd Doethur ynddo. Bu'n gefnogol iawn i'r Gymraeg yn yr ysgol yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol amrywiol.
Roedd yn arbenigwr mewn dwyieithrwydd plant, pwnc yr enillodd radd Doethur ynddo. Bu'n gefnogol iawn i'r Gymraeg yn yr ysgol yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol amrywiol.


Roedd hefyd yn weithgar yn ei bentref mabwysiedig; bu'n gadeirydd ar gangen leol Plaid Cymru, ac yn gefnogwr brwd i [[Clwb Garddio'r Groeslon|Glwb Garddio'r Groeslon]], gan gipio nifer helaeth o wobrau am ei ddahlias, a hynny am flynyddoedd. Roedd o'n un o sefydlwyr papur bro [[Lleu]]. Wrth ystyried ei sêl dros yr iaith a Chymru, rhyfedd oedd ei benderfynoldeb dros gadw tîm pêl-droed Tref Caernarfon allan o drefn Cynghrair Cymru, gan fynnu aros gyda'r clybiau a ddewisodd chwarae yn y cynghreiriau Seisnig.
Roedd hefyd yn weithgar yn ei bentref mabwysiedig; bu'n gadeirydd ar gangen leol Plaid Cymru, ac yn gefnogwr brwd i [[Clwb Garddio'r Groeslon|Glwb Garddio'r Groeslon]], gan gipio nifer helaeth o wobrau am ei ddahlias, a hynny am flynyddoedd. Roedd yn un o sefydlwyr papur bro [[Lleu]]. O ystyried ei sêl dros yr iaith a Chymru, rhyfedd oedd ei benderfynoldeb dros gadw tîm pêl-droed Tref Caernarfon allan o drefn Cynghrair Cymru, gan fynnu aros gyda'r clybiau a ddewisodd chwarae yn y cynghreiriau Seisnig.


Bu farw 25 Hydref 2020, ar ôl cyfnod hir o salwch.<ref>Geraint Lloyd Owen a Dewi jones,''Lleu'', Rhif 525, (Rhagfyr 2020), t.6</ref>
Bu farw 25 Hydref 2020, ar ôl cyfnod hir o salwch.<ref>Geraint Lloyd Owen a Dewi Jones,''Lleu'', Rhif 525, (Rhagfyr 2020), t.6</ref>


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:52, 10 Chwefror 2022

Brodor o Lanllechid oedd Dr. Emrys Price-Jones (1940-2020) ac fe raddiodd mewn Mathameteg ym Mangor ym 1962. Treuliodd nifer o flynyddoedd fel athro Mathemateg, ac wedyn fel pennaeth yr adran Fathemateg, yn Ysgol Dyffryn Nantlle, ar ôl cyfnod byr yn dysgu'r pwnc yng Nghaergybi. Ymgartrefodd yn Y Groeslon, hynny'n ddigon naturiol ag ystyried fod ei wraig, Elen, yn ferch i Ifor Hughes, cyn-bennaeth Ysgol Penfforddelen yn y pentref. Am flwyddyn neu ddwy yn y 1970au bu'n bennaeth yn Ysgol Uwchradd Penrallt, Pwllheli, cyn symud yn ôl i Ysgol Dyffryn Nantlle fel pennaeth yn y 1980au cynnar. Yno y bu nes ei ymddeoliad.

Roedd yn arbenigwr mewn dwyieithrwydd plant, pwnc yr enillodd radd Doethur ynddo. Bu'n gefnogol iawn i'r Gymraeg yn yr ysgol yn ogystal â gweithgareddau allgyrsiol amrywiol.

Roedd hefyd yn weithgar yn ei bentref mabwysiedig; bu'n gadeirydd ar gangen leol Plaid Cymru, ac yn gefnogwr brwd i Glwb Garddio'r Groeslon, gan gipio nifer helaeth o wobrau am ei ddahlias, a hynny am flynyddoedd. Roedd yn un o sefydlwyr papur bro Lleu. O ystyried ei sêl dros yr iaith a Chymru, rhyfedd oedd ei benderfynoldeb dros gadw tîm pêl-droed Tref Caernarfon allan o drefn Cynghrair Cymru, gan fynnu aros gyda'r clybiau a ddewisodd chwarae yn y cynghreiriau Seisnig.

Bu farw 25 Hydref 2020, ar ôl cyfnod hir o salwch.[1]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Geraint Lloyd Owen a Dewi Jones,Lleu, Rhif 525, (Rhagfyr 2020), t.6