Cyngor Sir Gaernarfon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Sefydlwyd '''Cyngor Sir Gaernarfon''' yn sgil Deddf Llywodraeth Leol 1888, a daeth y Cyngor i rym 1 Ebrill 1889. Dyma'r corff etholedig cyntaf i lywodraet...' |
BDim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Cyngor Sir Gaernarfon''' | Sefydlwyd '''Cyngor Sir Gaernarfon''' o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, a daeth y Cyngor i rym 1 Ebrill 1889. Dyma'r corff etholedig cyntaf i lywodraethu dros y sir gyfan. Cyn hynny, er bod ambell i gorff etholedig, megis byrddau gwarcheidwaid y tlodion a byrddau ysgol, yn gyfrifol am rai agweddau ar redeg materion lleol, roedd llywodraethiant y sir fel uned yn nwylo'r ynadon yn y [[Llys Chwarter]], a phenodid ynadon oherwydd eu cysylltiadau uchel, a hynny gan yr Arglwydd Ganghellor ar argymhelliad Arglwydd Raglaw y sir. | ||
Etholwyd cynghorwyr unigol am dymor o 3 blynedd ar gyfer pob plwyf gan bawb oedd ag eiddo neu a drigai yn y plwyf. Hefyd, fe benodwyd nifer o henaduriaid a ddaliai eu swydd am 6 | Etholwyd cynghorwyr unigol am dymor o 3 blynedd ar gyfer pob plwyf gan bawb oedd ag eiddo neu a drigai yn y plwyf. Hefyd, fe benodwyd nifer o henaduriaid a ddaliai eu swydd am 6 blynedd. Rhoddwyd ystod cynyddol o gyfrifoldebau i'r cynghorau sir: ffyrdd, pontydd, trwyddedu, marchnadoedd, pwysau a mesurau, addysg uwchradd, ysgolion cynradd, gofal cymdeithasol, iechyd a'r tlodion, cynllunio strategol ac yn y blaen. | ||
Daeth Cyngor Sir Gaernarfon i ben ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Unwyd [[Sir Gaernarfon]], Sir Feirionnydd, Sir Fôn a rhan o Sir Ddinbych yn sir newydd, sef [[Sir Gwynedd]]. Ffurfiwyd [[Cyngor Sir Gwynedd]] a gymerodd holl bwerau ac eiddo'r hen sir | Daeth Cyngor Sir Gaernarfon i ben ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Unwyd [[Sir Gaernarfon]], Sir Feirionnydd, Sir Fôn a rhan o Sir Ddinbych yn sir newydd, sef [[Sir Gwynedd]]. Ffurfiwyd [[Cyngor Sir Gwynedd]] a gymerodd drosodd holl bwerau ac eiddo'r hen sir. | ||
[[Categori:Llywodraeth leol]] | [[Categori:Llywodraeth leol]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:17, 27 Ionawr 2022
Sefydlwyd Cyngor Sir Gaernarfon o ganlyniad i Ddeddf Llywodraeth Leol 1888, a daeth y Cyngor i rym 1 Ebrill 1889. Dyma'r corff etholedig cyntaf i lywodraethu dros y sir gyfan. Cyn hynny, er bod ambell i gorff etholedig, megis byrddau gwarcheidwaid y tlodion a byrddau ysgol, yn gyfrifol am rai agweddau ar redeg materion lleol, roedd llywodraethiant y sir fel uned yn nwylo'r ynadon yn y Llys Chwarter, a phenodid ynadon oherwydd eu cysylltiadau uchel, a hynny gan yr Arglwydd Ganghellor ar argymhelliad Arglwydd Raglaw y sir.
Etholwyd cynghorwyr unigol am dymor o 3 blynedd ar gyfer pob plwyf gan bawb oedd ag eiddo neu a drigai yn y plwyf. Hefyd, fe benodwyd nifer o henaduriaid a ddaliai eu swydd am 6 blynedd. Rhoddwyd ystod cynyddol o gyfrifoldebau i'r cynghorau sir: ffyrdd, pontydd, trwyddedu, marchnadoedd, pwysau a mesurau, addysg uwchradd, ysgolion cynradd, gofal cymdeithasol, iechyd a'r tlodion, cynllunio strategol ac yn y blaen.
Daeth Cyngor Sir Gaernarfon i ben ym 1974 pan ad-drefnwyd llywodraeth leol yng Nghymru. Unwyd Sir Gaernarfon, Sir Feirionnydd, Sir Fôn a rhan o Sir Ddinbych yn sir newydd, sef Sir Gwynedd. Ffurfiwyd Cyngor Sir Gwynedd a gymerodd drosodd holl bwerau ac eiddo'r hen sir.