Eifion (etholaeth): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
'''Eifion''' | Cyn etholaeth seneddol y bu [[Uwchgwyrfai]]'n rhan ohoni oedd '''Eifion''', a oedd yn cael ei hadnabod weithiau fel ''De Sir Gaernarfon / South Carnarvonshire''. Roedd yn dychwelyd un Aelod i San Steffan. | ||
Crëwyd yr etholaeth gan Ddeddf Ailddosbarthu Seddau 1885 ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1885. Cafodd yr etholaeth ei dileu ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918. | |||
Ei ffiniau, yn fras, oedd cantref Llŷn a chymydau Eifionydd ac Uwchgwyrfai, ynghyd â rhannau gorllewinol o [[Isgwyrfai]]. Ni chynhwysai'r etholaeth y trefi a etholai aelod seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon. | |||
Dau aelod yn unig a gynrychiolodd yr etholaeth: [[John Bryn Roberts]] o 1885 hyd nes iddo gael ei ddyrchafu'n farnwr ym 1906; ac wedyn [[Ellis W. Davies]], o 1906 hyd ddiddymiad yr etholaeth ym 1918 - y ddau ohonynt yn rhyddfrydwyr a ddychwelwyd bron bob tro'n ddiwrthwynebiad gan nad oedd y Ceidwadwyr yn teimlo ei bod hi'n werth sefyll. Ym 1885, ceisiodd H. Ellis Nanney ennill y sedd dros y Ceidwadwyr, ac ym 1886, [[George Farren]], rheolwr [[Chwarel yr Eifl]], oedd yr ymgeisydd Ceidwadol (er iddo alw ei hun yn Unoliaethwr Rhyddfrydol|). W. Humphreys oedd eu hymgeisydd ym 1892. Ni safodd neb yn erbyn Roberts yn etholiadau 1895, 1900 na 1906, nac yn erbyn Ellis Davies mewn is-etholiad yr un flwyddyn. F.J.L. Priestley oedd eu hymgeisydd aflwyddiannus ym 1910.<ref>Wicipedia, erthygl ar Eifion [https://cy.wikipedia.org/wiki/Eifion_(etholaeth_seneddol)], cyrchwyd 21.01.2021</ref> | |||
Ym 1918, ailunwyd dwy sedd sirol Sir Gaernarfon yn un etholaeth fel y bu cyn 1885. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:39, 26 Ionawr 2022
Cyn etholaeth seneddol y bu Uwchgwyrfai'n rhan ohoni oedd Eifion, a oedd yn cael ei hadnabod weithiau fel De Sir Gaernarfon / South Carnarvonshire. Roedd yn dychwelyd un Aelod i San Steffan.
Crëwyd yr etholaeth gan Ddeddf Ailddosbarthu Seddau 1885 ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1885. Cafodd yr etholaeth ei dileu ar gyfer Etholiad Cyffredinol 1918.
Ei ffiniau, yn fras, oedd cantref Llŷn a chymydau Eifionydd ac Uwchgwyrfai, ynghyd â rhannau gorllewinol o Isgwyrfai. Ni chynhwysai'r etholaeth y trefi a etholai aelod seneddol dros Fwrdeistrefi Caernarfon.
Dau aelod yn unig a gynrychiolodd yr etholaeth: John Bryn Roberts o 1885 hyd nes iddo gael ei ddyrchafu'n farnwr ym 1906; ac wedyn Ellis W. Davies, o 1906 hyd ddiddymiad yr etholaeth ym 1918 - y ddau ohonynt yn rhyddfrydwyr a ddychwelwyd bron bob tro'n ddiwrthwynebiad gan nad oedd y Ceidwadwyr yn teimlo ei bod hi'n werth sefyll. Ym 1885, ceisiodd H. Ellis Nanney ennill y sedd dros y Ceidwadwyr, ac ym 1886, George Farren, rheolwr Chwarel yr Eifl, oedd yr ymgeisydd Ceidwadol (er iddo alw ei hun yn Unoliaethwr Rhyddfrydol|). W. Humphreys oedd eu hymgeisydd ym 1892. Ni safodd neb yn erbyn Roberts yn etholiadau 1895, 1900 na 1906, nac yn erbyn Ellis Davies mewn is-etholiad yr un flwyddyn. F.J.L. Priestley oedd eu hymgeisydd aflwyddiannus ym 1910.[1]
Ym 1918, ailunwyd dwy sedd sirol Sir Gaernarfon yn un etholaeth fel y bu cyn 1885.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma