Aelwyd yr Urdd Y Groeslon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Sefydlwyd '''Aelwyd yr Urdd''' yn [[Y Groeslon]], gan gychwyn ar safle [[Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon]]. Roedd yr | Sefydlwyd '''Aelwyd yr Urdd''' yn [[Y Groeslon]], gan gychwyn ar safle [[Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon]]. Roedd yr ysgol wedi bod yn weithgar iawn wrth gefnogi Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd ac ym 1941 cafwyd ymweliad gan John Morris, AEM, a awgrymodd y gellid sefydlu aelwyd yno. Cafwyd grant o £25 at ei sefydlu. Aeth un o'r athrawon, Ifor Hughes, a rhai o'r bechgyn hŷn ati i baentio cwt sinc oedd ar dir yr ysgol, a bu'r aelwyd yn cyfarfod yno am rai blynyddoedd dan arweiniad Ifor Hughes. Sefydlwyd llyfrgell yno, gyda phrifathro'r ysgol yn prynu pob llyfr Cymraeg newydd i ychwanegu ati. | ||
Ymysg y gweithgareddau yn y | Ymysg y gweithgareddau yn y blynyddoedd cynnar, trefnwyd dosbarthiadau nos mewn pynciau megis gwaith coed, gwaith lledr a dawnsio - gwerin a modern - i gyd dan nawdd Pwyllgor Addysg Arfon. Trefnid teithiau cerdded hefyd, megis i ben Yr Wyddfa, neu o Feddgelert i Borthmadog. Bu rhai o'r bechgyn yn aros fwy nag unwaith yn hen ysgol Pistyll hefyd. Ar ddechrau'r hydref, trefnid tripiau i fannau megis Manceinion neu Blackpool. | ||
Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan [[John Gwilym Jones]], ac a enillodd nifer o weithiau yng | Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan [[John Gwilym Jones]], ac a enillodd nifer o weithiau yng nghystadlaethau Clybiau Ieuenctid Arfon. Cynhaliwyd eisteddfodau tŷ hefyd, pan rannwyd yr aelodau'n ddau dîm, ac enillodd côr yr aelwyd dan arweiniad J.R. Jones yn Eisteddfod yr Urdd. | ||
Yn y man symudodd yr aelwyd i [[Neuadd Y Groeslon]] ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd | Yn y man symudodd yr aelwyd i [[Neuadd Y Groeslon]] ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd oedd ei fab-yng-nghyfraith, [[Emrys Price-Jones]], [[Elwyn Jones-Griffith]], Arthur Evans ac H.R. Williams.<ref>''Hanes y Groeslon'', (Caernarfon, 2000), tt.102-3</ref> | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 15:30, 24 Ionawr 2022
Sefydlwyd Aelwyd yr Urdd yn Y Groeslon, gan gychwyn ar safle Ysgol Penfforddelen, Y Groeslon. Roedd yr ysgol wedi bod yn weithgar iawn wrth gefnogi Eisteddfod yr Urdd ers blynyddoedd ac ym 1941 cafwyd ymweliad gan John Morris, AEM, a awgrymodd y gellid sefydlu aelwyd yno. Cafwyd grant o £25 at ei sefydlu. Aeth un o'r athrawon, Ifor Hughes, a rhai o'r bechgyn hŷn ati i baentio cwt sinc oedd ar dir yr ysgol, a bu'r aelwyd yn cyfarfod yno am rai blynyddoedd dan arweiniad Ifor Hughes. Sefydlwyd llyfrgell yno, gyda phrifathro'r ysgol yn prynu pob llyfr Cymraeg newydd i ychwanegu ati.
Ymysg y gweithgareddau yn y blynyddoedd cynnar, trefnwyd dosbarthiadau nos mewn pynciau megis gwaith coed, gwaith lledr a dawnsio - gwerin a modern - i gyd dan nawdd Pwyllgor Addysg Arfon. Trefnid teithiau cerdded hefyd, megis i ben Yr Wyddfa, neu o Feddgelert i Borthmadog. Bu rhai o'r bechgyn yn aros fwy nag unwaith yn hen ysgol Pistyll hefyd. Ar ddechrau'r hydref, trefnid tripiau i fannau megis Manceinion neu Blackpool.
Gweithgaredd hynod boblogaidd a llwyddiannus oedd y dramâu a gynhyrchwyd gan John Gwilym Jones, ac a enillodd nifer o weithiau yng nghystadlaethau Clybiau Ieuenctid Arfon. Cynhaliwyd eisteddfodau tŷ hefyd, pan rannwyd yr aelodau'n ddau dîm, ac enillodd côr yr aelwyd dan arweiniad J.R. Jones yn Eisteddfod yr Urdd.
Yn y man symudodd yr aelwyd i Neuadd Y Groeslon ac ymysg y rhai a fu'n weithgar yn arwain neu gefnogi'r Urdd wedi i Ifor Hughes ymddeol fel arweinydd oedd ei fab-yng-nghyfraith, Emrys Price-Jones, Elwyn Jones-Griffith, Arthur Evans ac H.R. Williams.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Hanes y Groeslon, (Caernarfon, 2000), tt.102-3