Pont Faen (Llanwnda): Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
B Symudodd Heulfryn y dudalen Pont Faen i Pont Faen (Llanwnda) heb adael dolen ailgyfeirio
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Pont Faen''' yw'r bont isaf ar [[Afon Gwyrfai]], ac mae wedi rhoi ei enw i'r fferm gerllaw. Saif ar ffin cwmwd [[Uwchgwyrfai]] ger pentref modern [[Saron]], rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a Llanfaglan (sydd yn [[Isgwyrfai]]), ar y ffordd o Gaernarfon i [[Llandwrog|Landwrog]]. Ar un adeg roedd ffrwd felin yn rhedeg o'r afon  ben ucha'r bont i'r felin, [[Melin y Bont-faen]], a safai ychydig yn nes at y môr. Gan fod y felin honno wedi ei hadeiladu tua dechrau'r 17g, dichon bod bont gynharach na'r un bresennol wedi croesi'r afon yn y fan hon.
'''Pont Faen''' yw'r bont isaf ar [[Afon Gwyrfai]], ac mae wedi rhoi ei henw i'r fferm gerllaw. Saif ar ffin cwmwd [[Uwchgwyrfai]] ger pentref modern [[Saron]], rhwng plwyfi [[Llanwnda]] a Llanfaglan (sydd yn [[Isgwyrfai]]), ar y ffordd o Gaernarfon i [[Llandwrog|Landwrog]]. Ar un adeg roedd ffrwd felin yn rhedeg o'r afon  ben ucha'r bont i'r felin, [[Melin y Bont-faen]], a safai ychydig yn nes at y môr. Gan fod y felin honno wedi ei hadeiladu tua dechrau'r 17g, dichon bod pont gynharach na'r un bresennol wedi croesi'r afon yn y fan hon.


Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1833-4 fel pont gyda dau fwa 16' ar draws dros yr afon. William George Owen, Caernarfon, peiriannydd oedd y contractor, a wnaed y bont yn unol â chynllun John Lloyd, syrfewr y sir am £180.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/36.</ref>
Cafodd y bont ei hatgyweirio gan William Humphrey, Morfa Cwta, Llanfaglan, saer maen a David Evans, Sarn Dŵr Garw, plwyf Llanbeblig, ym 1821 am £28.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/88</ref>
 
Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1833-4 fel pont gyda dau fwa 16' dros yr afon. William George Owen, Caernarfon, peiriannydd, oedd y contractor, a gwnaed y bont yn unol â chynllun John Lloyd, syrfewr y sir, a hynny am £180.<ref>Archifdy Caernarfon, XPlansB/36.</ref> Fodd bynnag, cafwyd lli anarferol o fawr ar 12 Rhagfyr 1852 a chwalwyd y bont newydd hon, a rhaid oedd codi pont newydd sbon eto, gydag un bwa 42' troedfedd o led, yn ei lle. William Thomas, adeiladydd, Caernarfon, oedd y sawl a gontractiwyd i wneud y gwaith, a hynny am y gost o £500.<ref>Archifdy Gwynedd, XPlansB/88</ref>
 
Ni ddylid cymysgu rhwng y bont hon â [[Pont Faen (Clynnog Fawr)|Phont Faen]] ger [[Clynnog Fawr]], ar draws [[Afon Desach]].


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 18:21, 12 Ionawr 2022

Pont Faen yw'r bont isaf ar Afon Gwyrfai, ac mae wedi rhoi ei henw i'r fferm gerllaw. Saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai ger pentref modern Saron, rhwng plwyfi Llanwnda a Llanfaglan (sydd yn Isgwyrfai), ar y ffordd o Gaernarfon i Landwrog. Ar un adeg roedd ffrwd felin yn rhedeg o'r afon ben ucha'r bont i'r felin, Melin y Bont-faen, a safai ychydig yn nes at y môr. Gan fod y felin honno wedi ei hadeiladu tua dechrau'r 17g, dichon bod pont gynharach na'r un bresennol wedi croesi'r afon yn y fan hon.

Cafodd y bont ei hatgyweirio gan William Humphrey, Morfa Cwta, Llanfaglan, saer maen a David Evans, Sarn Dŵr Garw, plwyf Llanbeblig, ym 1821 am £28.[1]

Adeiladwyd y bont o'r newydd ym 1833-4 fel pont gyda dau fwa 16' dros yr afon. William George Owen, Caernarfon, peiriannydd, oedd y contractor, a gwnaed y bont yn unol â chynllun John Lloyd, syrfewr y sir, a hynny am £180.[2] Fodd bynnag, cafwyd lli anarferol o fawr ar 12 Rhagfyr 1852 a chwalwyd y bont newydd hon, a rhaid oedd codi pont newydd sbon eto, gydag un bwa 42' troedfedd o led, yn ei lle. William Thomas, adeiladydd, Caernarfon, oedd y sawl a gontractiwyd i wneud y gwaith, a hynny am y gost o £500.[3]

Ni ddylid cymysgu rhwng y bont hon â Phont Faen ger Clynnog Fawr, ar draws Afon Desach.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/88
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansB/36.
  3. Archifdy Gwynedd, XPlansB/88