Gefail Dolydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Roedd '''Gefail Dolydd''' yn un o gefeiliau pwysicaf Uwchgwyrfai yn ei dydd ac yn bur hen. Safai wrth ochr y lôn dyrpeg o Ffingar i Porthmadog|...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Roedd '''Gefail Dolydd''' yn un o | Roedd '''Gefail Dolydd''' yn un o efeiliau pwysicaf [[Uwchgwyrfai]] yn ei dydd ac yn bur hen. Safai wrth ochr y lôn dyrpeg o [[Ffingar]] i Borthmadog, gyferbyn â tholldy [[Dolydd]]. Mae'n debyg y dewisiwyd y safle fel y gallai cwsmeriaid gyrraedd yr efail o'r ddau gyfeiriad heb orfod talu toll. Yn ogystal â phedoli, gwnaed llawer o waith haearn at alw ffermydd y fro yno, a cheir llawer i enghraifft o waith yr efail hyd heddiw ar ffurf giatiau ac ati. Un nodwedd o waith pob dydd yr efail oedd ailddefnyddio metel, megis cylchoedd haearn a fu cyn hynny o amgylch olwynion troliau, trwy eu sythu a'u defnyddio fel estyll llidiardau haearn. | ||
Yn gynnar yn y 20g symudwyd y gwaith i gwt newydd ger [[Pont Dolydd]] sydd bellach wedi ei | Yn gynnar yn y 20g symudwyd y gwaith i gwt newydd ger [[Pont Dolydd]] sydd bellach wedi ei ddatblygu'n fodurdy, a gwnaed gwaith peirianyddol, weldio ac ati yno. | ||
Mae'r "Hen Efail" fel y gelwir yr adeilad heddiw wedi bod yn gaffi, a oedd yn enwog am y | Mae'r "Hen Efail", fel y gelwir yr adeilad heddiw, wedi bod yn gaffi, a oedd yn enwog am y gwrych siâp eliffant yn yr ardd. Erbyn heddiw mae'n bencadlys cwmni diogelwch.<ref>Gwybodaeth leol</ref> | ||
==Cyfeiriadau== | ==Cyfeiriadau== | ||
{{cyfeiriadau}} | {{cyfeiriadau}} | ||
[[Categori:Diwydiant a | [[Categori:Diwydiant a Masnach]] | ||
[[Categori:Gefeiliau]] |
Golygiad diweddaraf yn ôl 16:41, 11 Ionawr 2022
Roedd Gefail Dolydd yn un o efeiliau pwysicaf Uwchgwyrfai yn ei dydd ac yn bur hen. Safai wrth ochr y lôn dyrpeg o Ffingar i Borthmadog, gyferbyn â tholldy Dolydd. Mae'n debyg y dewisiwyd y safle fel y gallai cwsmeriaid gyrraedd yr efail o'r ddau gyfeiriad heb orfod talu toll. Yn ogystal â phedoli, gwnaed llawer o waith haearn at alw ffermydd y fro yno, a cheir llawer i enghraifft o waith yr efail hyd heddiw ar ffurf giatiau ac ati. Un nodwedd o waith pob dydd yr efail oedd ailddefnyddio metel, megis cylchoedd haearn a fu cyn hynny o amgylch olwynion troliau, trwy eu sythu a'u defnyddio fel estyll llidiardau haearn.
Yn gynnar yn y 20g symudwyd y gwaith i gwt newydd ger Pont Dolydd sydd bellach wedi ei ddatblygu'n fodurdy, a gwnaed gwaith peirianyddol, weldio ac ati yno.
Mae'r "Hen Efail", fel y gelwir yr adeilad heddiw, wedi bod yn gaffi, a oedd yn enwog am y gwrych siâp eliffant yn yr ardd. Erbyn heddiw mae'n bencadlys cwmni diogelwch.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth leol