Record of Caernarvon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 21 golygiad yn y canol gan 3 defnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''The Record of Caernavon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai y rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i wnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio oddi wrth llawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.
'''The Record of Caernarvon''' yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.<ref>''Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696.'' (Llundain, 1838)</ref> Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r ''Extentae'', sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys ''Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves'' ([[Stent Uwchgwyrfai 1352|Stent o Sir Gaernarfon]] a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.


Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes mwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.
Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.


Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithaid yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfiithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]] o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r bennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] ac hefyd mewn erthyglau am y trefgorddi unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â;r cwmwd trefgordd wrth drefgordd.
Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr<ref>A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" ''(Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn''), (1971-2) tt.150-272</ref> ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan '''Gof y Cwmwd''' felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag [[Uwchgwyrfai]] o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd [[Stent Uwchgwyrfai 1352]] a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).
 
Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgywrfai. Mae '''Cof y Cwmwd''' yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd, yng nghorff erthyglau [[Y Degwm]], [[Llanwnda (trefgordd)]] ac [[Abaty Aberconwy]] ymysg eraill.


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Hanes]]
[[Categori:Trethi a thollau]]
[[Categori:Daearyddiaeth ddynol]]
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]]
[[Categori:Dogfennau ac adysgrifau gwreiddiol]]
[[Categori: Trethi a thollau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 16:16, 4 Ionawr 2022

The Record of Caernarvon yw'r enw a roddwyd ar gyfrol o drawsysgrifiadau o ddogfennau sy'n dyddio o'r 14g a 15g ac sydd yn ymwneud â hen dywysogaeth Gwynedd dan ei rheolwyr Seisnig newydd wedi buddugoliaethau Iorwerth I, ac a gyhoeddwyd ym 1838 gan Syr Henry Ellis, Prif Lyfrgellydd yr Amgueddfa Brydeinig.[1] Efallai mai'r rhan bwysicaf yw'r Extentae, sef Stentau (neu gofrestrau rhenti a dyletswyddau ynghlwm wrth ddaliadaeth o dir), yn cynnwys Extenta comites de Caernarvon; facta per Johannem de Delves (Stent o Sir Gaernarfon a wnaed gan John de Delves); fe'i gwnaed ym 1352. Mae tri neu bedwar o gopïau o'r Stentau hyn, gan gynnwys un ymysg archifau Baron Hill yn Archifdy Prifysgol Bangor. Fodd bynnag, mae cynnwys y gyfrol brintiedig wedi ei chopio o lawysgrif yn y Llyfrgell Brydeinig, llsg. Harley 696.

Mae'r cynnwys i gyd (ond am y rhagair ac ambell i ddogfen hwyr) wedi ei ysgrifennu mewn Lladin. Yr arfer ymysg clercod gweinyddol oedd talfyrru'r hyn yr oeddent yn ei ysgrifennu gymaint ag yr oedd modd, er mwyn arbed amser a deunydd drud ysgrifennu, ond y canlyniad yw fod angen deall yr holl arwyddion talfyrru yn ogystal â'r iaith. Heddiw byddai golygydd yn ymestyn y talfyriadau, ond mewn oes fwy academig (ymysg y deallusion) lle 'roedd pawb oedd â lefel weddol dda o addysg yn deall Lladin yn rhwydd.

Cafodd cyfieithiad i'r Saesneg o Stent Ynys Môn 1352 ei gyhoeddi gan y diweddar Athro A.D. Carr[2] ac mae rhagair a throednodiadau yn y cyfieithiad yn help i ddeall y ddogfen ar gyfer Sir Gaernarfon hefyd. Fodd bynnag, hyd y gwyddys, nid oes cyfieithiad wedi ei wneud o Stent Sir Gaernarfon. Mae'n brosiect gan Gof y Cwmwd felly i gyhoeddi cyfieithiadau o'r darnau sydd yn ymwneud ag Uwchgwyrfai o dipyn i beth, gan roi'r cyfieithiadau mewn erthygl gyda'r pennawd Stent Uwchgwyrfai 1352 a hefyd mewn erthyglau am y trefgorddau unigol (gan fod y Stent yn ymdrin â'r cwmwd drefgordd wrth drefgordd).

Yn yr un gyfrol brintiedig mae copïau o ddogfennau eraill o'r un cyfnod sydd yn sôn am ardrethi a dyletswyddau ac mae rhai yn taflu mwy o olau ar y trefniadau yn Uwchgywrfai. Mae Cof y Cwmwd yn cynnwys cyfieithiadau o'r darnau hyn hefyd, yng nghorff erthyglau Y Degwm, Llanwnda (trefgordd) ac Abaty Aberconwy ymysg eraill.

Cyfeiriadau

  1. Registrum Vulgariter Nuncupatum "The Record of Caernarvon" ê Codice Ms. Harleiano 696. (Llundain, 1838)
  2. A.D. Carr, "The Extent of Anglesey, 1352" (Trafodion Cymdeithas Hynafiaeithwyr Môn), (1971-2) tt.150-272