Coleg Glynllifon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cudyll (sgwrs | cyfraniadau)
Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda ''''Coleg Glynllifon''' oedd y coleg amaethyddol ar gyfer Sir Gaernarfon ac wedi cael ei sefydlu'n wreiddiol ym mhlasty Madrytn ger Nefyn gan y Cyngor...'
 
BDim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 3 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Coleg Glynllifon''' oedd y coleg amaethyddol  ar gyfer [[Sir Gaernarfon]] ac wedi cael ei sefydlu'n wreiddiol ym mhlasty Madrytn ger Nefyn gan y Cyngor Sir ym 1913 fel ysgol dechnegol. Oherwydd cyflwr yr adeilad, a'r ffaith fod adeilad addas yn nes at ganol y sir ar gael, sef [[Plas Glynllifon]], symudwyd y coleg amaethyddol, fel yr oedd hi erbyn hynny, i hen blasty [[Teulu Newborough]], sef [[Glynllifon]]. Newidwyd enw'r sefydlioad i "Coleg Amaethyddol Glynllifon" ym 1954. Roedd llawer o'r tir a'r gerddi'n gymwysedig yn y gwerthiant, gan sicrhau bod fferm sylweddol ar gael at iws y myfyrwyr. Yn ogystal ag amaethyddiaeth, cynigid cyrsiau coedwigaeth a garddwriaeth, ymysg eraill. Oherwydd maint y Plas, cyflogwyd athro ysgol hefyd i fod yn drefnydd cyrsiau preswyl ar gyfer plant oed cynradd, ac yr oedd wythnos yng Nglynllifon yn ran gyson o amserlen llawer o ysgolion y sir.
'''Coleg Glynllifon''' oedd y coleg amaethyddol  ar gyfer [[Sir Gaernarfon]]. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ym mhlasty Madryn ger Nefyn gan y Cyngor Sir ym 1913 fel ysgol dechnegol. Oherwydd cyflwr yr adeilad, a'r ffaith fod adeilad addas yn nes at ganol y sir ar gael, sef [[Plas Glynllifon]], symudwyd y coleg amaethyddol, fel yr oedd erbyn hynny, i hen blasty [[Teulu Glynllifon]]. Newidwyd enw'r sefydliad i "Coleg Amaethyddol Glynllifon" ym 1954. Roedd llawer o'r tir a'r gerddi'n gynwysedig yn y gwerthiant, gan sicrhau bod fferm sylweddol ar gael at ddefnydd y myfyrwyr. Yn ogystal ag amaethyddiaeth, cynigid cyrsiau coedwigaeth a garddwriaeth ymysg pynciau eraill. Oherwydd maint y Plas, cafwyd cyfle ehangach, a chyflogwyd athro ysgol i fod yn drefnydd cyrsiau preswyl ar gyfer plant oed cynradd, ac yr oedd wythnos yng Nglynllifon yn rhan gyson o amserlen llawer o ysgolion y sir.


Yn ogystal â'r Plas ei hun, defnyddid y stablau fel neuadd breswyl, adeilad a ymestynwyd tua 1990, gan greu porth newydd yn wynebu'r lôn o'r ffordd fawr.
Yn ogystal â'r Plas ei hun, defnyddid y stablau fel neuadd breswyl, adeilad a estynnwyd tua 1990 gan greu porth newydd yn wynebu'r lôn o'r ffordd fawr.


Ym 1993, gyda diddymiad adrannau chweched dosbarth yn y rhan fwyaf o dde [[Gwynedd]], cyfunwyd Coleg Glynllifon a Choleg Meirionnydd, gan agor trydedd ran i'r coleg ym Mhwllheli, i ffurfio Coleg Meirion-Dwyfor. Erbyn hyn, wedi cyfres o uniadau pellach, mae'r hyn a oedd yn Goleg Glynllifon yn un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai.<ref>Rhagair i gatalog cofnodion y Coleg yn Archifdy Gwynedd.</ref>
Ym 1993, gyda diddymiad adrannau chweched dosbarth yn y rhan fwyaf o dde [[Gwynedd]], cyfunwyd Coleg Glynllifon a Choleg Meirionnydd, gan agor trydedd ran i'r coleg ym Mhwllheli, i ffurfio Coleg Meirion-Dwyfor. Erbyn hyn, wedi cyfres o uniadau pellach, mae'r hyn a oedd yn Goleg Glynllifon yn un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai.<ref>Rhagair i gatalog cofnodion y Coleg yn Archifdy Gwynedd.</ref>


Yn fuan wedyn, tynnwyd addysg trydyddol oddi ar y cynghorau sir, a chollodd y Cyngor Sir feddiant ar y tiroedd a ddefnyddir gan y coleg, ac aeth y coleg yn sefydliad annibynnol. Bu sawl datblygiad wedyn, gwerthwyd y Plas ac adeiladwyd llawer o adeiladau newydd pwrpasol ar gyfer dysgu ac arbrofi yn ogystal ag adeiladau amaethyddol eu diben.
Yn fuan wedyn, tynnwyd addysg drydyddol oddi ar y cynghorau sir, a chollodd y Cyngor Sir feddiant ar y tiroedd a ddefnyddir gan y coleg. Aeth y coleg yn sefydliad annibynnol. Bu sawl datblygiad wedyn; gwerthwyd y Plas ac adeiladwyd llawer o adeiladau newydd pwrpasol ar gyfer dysgu ac arbrofi yn ogystal ag adeiladau amaethyddol eu diben.


{{eginyn}}
{{eginyn}}

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:53, 15 Ebrill 2021

Coleg Glynllifon oedd y coleg amaethyddol ar gyfer Sir Gaernarfon. Fe'i sefydlwyd yn wreiddiol ym mhlasty Madryn ger Nefyn gan y Cyngor Sir ym 1913 fel ysgol dechnegol. Oherwydd cyflwr yr adeilad, a'r ffaith fod adeilad addas yn nes at ganol y sir ar gael, sef Plas Glynllifon, symudwyd y coleg amaethyddol, fel yr oedd erbyn hynny, i hen blasty Teulu Glynllifon. Newidwyd enw'r sefydliad i "Coleg Amaethyddol Glynllifon" ym 1954. Roedd llawer o'r tir a'r gerddi'n gynwysedig yn y gwerthiant, gan sicrhau bod fferm sylweddol ar gael at ddefnydd y myfyrwyr. Yn ogystal ag amaethyddiaeth, cynigid cyrsiau coedwigaeth a garddwriaeth ymysg pynciau eraill. Oherwydd maint y Plas, cafwyd cyfle ehangach, a chyflogwyd athro ysgol i fod yn drefnydd cyrsiau preswyl ar gyfer plant oed cynradd, ac yr oedd wythnos yng Nglynllifon yn rhan gyson o amserlen llawer o ysgolion y sir.

Yn ogystal â'r Plas ei hun, defnyddid y stablau fel neuadd breswyl, adeilad a estynnwyd tua 1990 gan greu porth newydd yn wynebu'r lôn o'r ffordd fawr.

Ym 1993, gyda diddymiad adrannau chweched dosbarth yn y rhan fwyaf o dde Gwynedd, cyfunwyd Coleg Glynllifon a Choleg Meirionnydd, gan agor trydedd ran i'r coleg ym Mhwllheli, i ffurfio Coleg Meirion-Dwyfor. Erbyn hyn, wedi cyfres o uniadau pellach, mae'r hyn a oedd yn Goleg Glynllifon yn un o gampysau Grŵp Llandrillo Menai.[1]

Yn fuan wedyn, tynnwyd addysg drydyddol oddi ar y cynghorau sir, a chollodd y Cyngor Sir feddiant ar y tiroedd a ddefnyddir gan y coleg. Aeth y coleg yn sefydliad annibynnol. Bu sawl datblygiad wedyn; gwerthwyd y Plas ac adeiladwyd llawer o adeiladau newydd pwrpasol ar gyfer dysgu ac arbrofi yn ogystal ag adeiladau amaethyddol eu diben.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Rhagair i gatalog cofnodion y Coleg yn Archifdy Gwynedd.