Capel Bwlch-y-llyn (A): Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Crëwyd tudalen newydd yn dechrau gyda 'Saif '''Capel Bwlch-y-llyn''' yn y pentrefan o'r un enw ar gyrion Y Fron, plwyf Llandwrog. Mae'n nodedig am iddo gael ei godi mor ddiweddar â 190...' |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y golygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Saif '''Capel Bwlch-y-llyn''' yn y pentrefan o'r un enw ar gyrion [[Y Fron]], plwyf [[Llandwrog]]. Mae'n nodedig am iddo gael ei godi mor ddiweddar â 1907. Cafodd ei ddylunio gan bensaer (yn hytrach | Saif '''Capel Bwlch-y-llyn''' yn y pentrefan o'r un enw ar gyrion [[Y Fron]], plwyf [[Llandwrog]]. Mae'n nodedig am iddo gael ei godi mor ddiweddar â 1907. Cafodd ei ddylunio gan bensaer (yn hytrach nag adeiladydd lleol). Defnyddiwyd llawer o frics coch ar du blaen y capel, sydd yn taro dyn yn od mewn ardal lle mae'r garreg las ym mhob man ac yn rhad. Oherwydd hyn mae'n gwneud datganiad clir o'r gwahaniaeth enwadol rhyngddo â chapel arall yr ardal, sef [[Capel Cesarea (MC), Y Fron]]. | ||
Caewyd y capel ar ôl oes fer o lai na chan mlynedd. Erbyn 2011 yr oedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Bu helynt fawr yno y flwyddyn honno gan fod yr heddlu wedi canfod llawer iawn o offer trydanol wedi'i ddwyn yn yr adeilad. Boed hynny fel y bo, mae' | Caewyd y capel ar ôl oes fer o lai na chan mlynedd. Erbyn 2011 yr oedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Bu helynt fawr yno y flwyddyn honno gan fod yr heddlu wedi canfod llawer iawn o offer trydanol wedi'i ddwyn yn yr adeilad. Boed hynny fel y bo, mae'r adeilad yn parhau heb fawr o newid allanol ac yn nodwedd drawiadol yn yr ardal. | ||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 11:02, 7 Ebrill 2021
Saif Capel Bwlch-y-llyn yn y pentrefan o'r un enw ar gyrion Y Fron, plwyf Llandwrog. Mae'n nodedig am iddo gael ei godi mor ddiweddar â 1907. Cafodd ei ddylunio gan bensaer (yn hytrach nag adeiladydd lleol). Defnyddiwyd llawer o frics coch ar du blaen y capel, sydd yn taro dyn yn od mewn ardal lle mae'r garreg las ym mhob man ac yn rhad. Oherwydd hyn mae'n gwneud datganiad clir o'r gwahaniaeth enwadol rhyngddo â chapel arall yr ardal, sef Capel Cesarea (MC), Y Fron.
Caewyd y capel ar ôl oes fer o lai na chan mlynedd. Erbyn 2011 yr oedd yn cael ei ddefnyddio fel tŷ. Bu helynt fawr yno y flwyddyn honno gan fod yr heddlu wedi canfod llawer iawn o offer trydanol wedi'i ddwyn yn yr adeilad. Boed hynny fel y bo, mae'r adeilad yn parhau heb fawr o newid allanol ac yn nodwedd drawiadol yn yr ardal.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma