Henry Kennedy: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 6 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
'''Henry Kennedy''' (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.<ref>Erthygl Wicipedia am Kennedy, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Kennedy_(architect)], cyrchwyd 23.3.2021</ref> Er bod ganddo ddau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â mwyaf helaeth o waith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Syr George Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol corff yr eglwys gadeiriol, a ganmolwyd yn gyffredinol.<ref>Gwefan Gilbert Scott.org, [https://gilbertscott.org/bangor-cathedral-bangor/], cyrchwyd 23.3.2021</ref>
'''Henry Kennedy''' (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.<ref>Erthygl Wicipedia am Kennedy, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Kennedy_(architect)], cyrchwyd 23.3.2021</ref> Er bod ganddo ddau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â'r mwyafrif helaeth o waith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Syr George Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol corff yr eglwys gadeiriol, a ganmolwyd yn gyffredinol.<ref>Gwefan Gilbert Scott.org, [https://gilbertscott.org/bangor-cathedral-bangor/], cyrchwyd 23.3.2021</ref>


Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], ei brif waith oedd codi [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog|eglwys newydd]] ar gyfer pentref [[Llandwrog]] yn unol â dymuniadau [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], tua 1859-61.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14261</ref> Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]] fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6</ref> ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761</ref> Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau [[Ysgol Llandwrog]], yr ysgol eglwys lleol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/872</ref> Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/871</ref>
Kennedy oedd yn gyfrifol am ddylunio [[Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon]], a agorwyd ym 1853 ar dir a roddwyd gan yr Arglwydd Newborough.<ref>Gwler tudalen [[Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon]] yn '''Cof y Cwmwd''' am fanylion a llun o un o'i gynlluniau o'r eglwys.</ref> Bron i 40 mlynedd yn ddiweddarach, fo oedd pensaer eglwys newydd [[Pen-y-groes]], sef [[Eglwys Crist, Pen-y-groes|Eglwys Crist]] a agorwyd ym 1890. Mae'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion yn ei disgrifio fel eglwys ddigon cyffredin yn y dull Seisnig Cynnar.<ref>Gwefan Coflein, [https://coflein.gov.uk/cy/safle/43666/], cyrchwyd 23.3.2021></ref>


Defnyddiodd Newborough ef fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/22297 ''et seq.''</ref> a gwneud gwaith yn Eglwys Boduan ar ei ystâd ym Mhen Llŷn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/115</ref> Yr oedd ei fab, [[Frederick George Wynn]], yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol am ailadeiladu rhan o wal ddwyreiniol [[Plas Glynllifon]] a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef, mor ddiweddar â 1889.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/1579</ref>
Yng nghyd-destun [[Uwchgwyrfai]], ei brif waith, fodd bynnag, oedd codi [[Eglwys Sant Twrog, Llandwrog|eglwys newydd]] ar gyfer pentref [[Llandwrog]] yn unol â dymuniadau [[Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough]], tua 1859-61.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14261</ref> Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym [[Parc Glynllifon|Mharc Glynllifon]] fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6</ref> ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761</ref> Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau [[Ysgol Llandwrog]], yr ysgol eglwys leol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/872</ref> Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/871</ref>


Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y Sir dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/24256</ref> Ymysg ei waith secular prin ceir addasiadau i Gastell Gwrych, Abergele, a thwr cloc y dref ym Machynlleth, sydd, fel ei eglwysi, yn dangos ei hoffter o'r traddodiad gothig.<ref>Erthygl Wicipedia am Kennedy, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Kennedy_(architect)], cyrchwyd 23.3.2021; Gwefan Gilbert Scott.org, [https://gilbertscott.org/bangor-cathedral-bangor/], cyrchwyd 23.3.2021</ref>  
Defnyddiodd Newborough ef fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/22297 ''et seq.''</ref> a gwneud gwaith yn Eglwys Boduan ar ei ystâd ym Mhen Llŷn.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/115</ref> Yr oedd ei fab, [[Frederick George Wynn]], yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol, mor ddiweddar â 1889, am ail-adeiladu rhan o wal ddwyreiniol [[Plas Glynllifon]] a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2A/1579</ref>


Bu farw ym 1896 (er i rai ffynonellau ddweud 1898). Y farn cyffredinol am ei waith oedd ei fod yn ddigon grefftus a boddhaol er nad oedd yn cyrraedd safonau disglair fel arfer. Ceir mwy o fanylion am ei waith y tu hwnt i Uwchgwyrfai ar safleoedd Wicipedia, ac yn y ''Dictionary of Scottish Architects''. Nid yw'n amlwg pam ei fod yn ymddangos yn y fan honno, ond dichon felly fod ganddo wreiddiau teuluol yn Yr Alban.<ref>''Dictionary of Scottish Architects'', [http://www.scottisharchitects.org.uk/architect_full.php?id=205538], cyrchwyd 23.3.2021</ref>
Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y Sir dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.<ref>Archifdy Caernarfon, XD2/24256</ref> Ymysg ei waith seciwlar prin ceir addasiadau i Gastell Gwrych, Abergele, a thŵr cloc y dref ym Machynlleth, sydd, fel ei eglwysi, yn dangos ei hoffter o'r traddodiad gothig.<ref>Erthygl Wicipedia am Kennedy, [https://en.wikipedia.org/wiki/Henry_Kennedy_(architect)], cyrchwyd 23.3.2021; Gwefan Gilbert Scott.org, [https://gilbertscott.org/bangor-cathedral-bangor/], cyrchwyd 23.3.2021</ref>
 
Bu farw ym 1896 (er i rai ffynonellau ddweud 1898). Y farn gyffredinol am ei waith oedd ei fod yn ddigon crefftus a boddhaol er nad oedd yn cyrraedd safonau disglair fel rheol. Ceir mwy o fanylion am ei waith y tu hwnt i Uwchgwyrfai ar safleoedd Wicipedia, ac yn y ''Dictionary of Scottish Architects''. Nid yw'n amlwg pam ei fod yn ymddangos yn y fan honno, ond dichon felly fod ganddo wreiddiau teuluol yn Yr Alban.<ref>''Dictionary of Scottish Architects'', [http://www.scottisharchitects.org.uk/architect_full.php?id=205538], cyrchwyd 23.3.2021</ref>


==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:04, 30 Mawrth 2021

Henry Kennedy (1814-1896) oedd y pensaer mwyaf cynhyrchiol a weithiai ar eglwysi esgobaeth Bangor yng nghanol y 19g., gan atgyweirio, ymestyn neu ail-adeiladu tua 80 ohonynt dros gyfnod o hanner can mlynedd. Cafodd ei eni yn Llundain, ond yn ystod y 1840au cynnar fe symudodd i Fangor, gan sefydlu cwmni o benseiri yno, gyda'i swyddfa am amser maith ar y Stryd Fawr.[1] Er bod ganddo ddau bartner ar adegau gwahanol, fo ei hun a ymgymerai â'r mwyafrif helaeth o waith yr esgobaeth, yn cynnwys gosod to ar ran o'r Eglwys Gadeiriol - gwaith a feirniadwyd yn hallt gan y pensaer eglwysig enwog, Syr George Gilbert Scott, oherwydd iddo ddinistrio nenfwd hanesyddol corff yr eglwys gadeiriol, a ganmolwyd yn gyffredinol.[2]

Kennedy oedd yn gyfrifol am ddylunio Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon, a agorwyd ym 1853 ar dir a roddwyd gan yr Arglwydd Newborough.[3] Bron i 40 mlynedd yn ddiweddarach, fo oedd pensaer eglwys newydd Pen-y-groes, sef Eglwys Crist a agorwyd ym 1890. Mae'r Comisiwn Brenhinol ar Henebion yn ei disgrifio fel eglwys ddigon cyffredin yn y dull Seisnig Cynnar.[4]

Yng nghyd-destun Uwchgwyrfai, ei brif waith, fodd bynnag, oedd codi eglwys newydd ar gyfer pentref Llandwrog yn unol â dymuniadau Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough, tua 1859-61.[5] Cyn hynny, ym 1853, roedd Newborough wedi bod yn datblygu cynlluniau ar gyfer eglwys ym Mharc Glynllifon fel capel preifat gyda ffenestri mawr a chladdgelloedd tanddaearol i'r teulu am gost o £7000,[6] ond ni wireddwyd y cynlluniau hynny.[7] Yr oedd Kennedy hefyd yn gyfrifol ym 1853 am gynllunio adeiladau Ysgol Llandwrog, yr ysgol eglwys leol.[8] Roedd Kennedy'n fwy na phensaer brics a mortar yn unig - mae dogfennau ar gael sydd yn dangos mai ef, er enghraifft, oedd yn gyfrifol am ddylunio desgiau'r plant yn yr ysgol.[9]

Defnyddiodd Newborough ef fel y pensaer ar gyfer ail-adeiladu Abaty Maenan, ei eiddo yn Nyffryn Conwy;[10] a gwneud gwaith yn Eglwys Boduan ar ei ystâd ym Mhen Llŷn.[11] Yr oedd ei fab, Frederick George Wynn, yn gleient iddo hefyd - roedd Kennedy'n gyfrifol, mor ddiweddar â 1889, am ail-adeiladu rhan o wal ddwyreiniol Plas Glynllifon a'r tŷ gwydr sydd ynghlwm ag ef.[12]

Ym 1853 gwnaeth Kennedy gais am y swydd o Arolygydd y Sir dan y Sesiwn Chwarter, ond hyd y gwyddys ni fu'n llwyddiannus.[13] Ymysg ei waith seciwlar prin ceir addasiadau i Gastell Gwrych, Abergele, a thŵr cloc y dref ym Machynlleth, sydd, fel ei eglwysi, yn dangos ei hoffter o'r traddodiad gothig.[14]

Bu farw ym 1896 (er i rai ffynonellau ddweud 1898). Y farn gyffredinol am ei waith oedd ei fod yn ddigon crefftus a boddhaol er nad oedd yn cyrraedd safonau disglair fel rheol. Ceir mwy o fanylion am ei waith y tu hwnt i Uwchgwyrfai ar safleoedd Wicipedia, ac yn y Dictionary of Scottish Architects. Nid yw'n amlwg pam ei fod yn ymddangos yn y fan honno, ond dichon felly fod ganddo wreiddiau teuluol yn Yr Alban.[15]

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Kennedy, [1], cyrchwyd 23.3.2021
  2. Gwefan Gilbert Scott.org, [2], cyrchwyd 23.3.2021
  3. Gwler tudalen Eglwys Sant Thomas, Y Groeslon yn Cof y Cwmwd am fanylion a llun o un o'i gynlluniau o'r eglwys.
  4. Gwefan Coflein, [3], cyrchwyd 23.3.2021>
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/14261
  6. Archifdy Caernarfon, XD2/14255-6
  7. Archifdy Caernarfon, XD2A/754-761
  8. Archifdy Caernarfon, XD2A/872
  9. Archifdy Caernarfon, XD2A/871
  10. Archifdy Caernarfon, XD2/22297 et seq.
  11. Archifdy Caernarfon, XD2A/115
  12. Archifdy Caernarfon, XD2A/1579
  13. Archifdy Caernarfon, XD2/24256
  14. Erthygl Wicipedia am Kennedy, [4], cyrchwyd 23.3.2021; Gwefan Gilbert Scott.org, [5], cyrchwyd 23.3.2021
  15. Dictionary of Scottish Architects, [6], cyrchwyd 23.3.2021