Ystad y Faenol: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir 2 golygiad rhyngol gan yr un defnyddiwr)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''Ystad y Faenol''' wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi Uwchgwyrfai hefyd yn eido i'rystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddi-etifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad.
Roedd '''Ystad y Faenol''' wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi [[Uwchgwyrfai]] hefyd yn eido i'r ystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddietifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr<ref>Archifdy Caernarfon, XVaynol/7414</ref> - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad. Nid oedd defnydd gan y Goron o ystad mor bellenig o'u safbwynt nhw, ond fel gwobr i anrhydeddu rhyw was ffyddlon neu'i gilydd, ac yn y man, John Smith, o Tedworth, Swydd Southampton, gafodd y wobr honno. Fel perchnogion o bell am flynyddoedd lawer cyn symud i blas y Faenol, ychydig o newid a fu i'r ystad.


Mae mapiau ac arolwg o'r ystad o 1777-8 yn dangos yn glir pa diroedd oedd yn perthyn i'r ystad.<ref>Archifdy Caernarfon, XVaynol/4055</ref> Yn ogystal â llawer o dir o gwmpas yr ystad, roedd maenor Dinorwig, a thiroedd bur helaeth yn Llŷn - yn cynnwys hanner Nant Gwytheyrn, a thir ym mhob plwyf yn Uwchgwyrfai. Rhestrir isod enwau'r ffermydd yn Uwchgwyrfai - llawer ohonynt, sef tiroedd [[Plas Dinas]] wedi dod i feddiant yr ystad trwy briodas mam Syr William Williams, un o Fwcleiod Baron Hill, Biwmares, oedd yn berchen ar y tiroedd hynny:
'''Clynnog Fawr'''
*[[Hengwm]]
'''Llanaelhaearn'''
*Tyddyn Mawr
'''Llandwrog'''
*Coed y Brain
'''Llanllyfni'''
*Ffridd Baladeulyn
*Talymignedd
'''Llanwnda'''
*[[Drws-y-coed]]
*[[Llyn y Dywarchen]]
*rhan o [[Llyn y Gader|Lyn y Gader]]
*[[Plas Dinas]] a thiriogaeth (demên) Dinas ar hyd glan orllewinol [[Afon Gwyrfai]] hay at [[Y Foryd]]
*Tyddyn y Berth
*Tŷ Mawr neu Tŷn Llan
*Wernlas
*Pistyll
*Cae Hen
*Gaerwen a Phenygaerwen
*Caea'r Odyn
*Cae Bach y Dinas
*Cae Mawr
*Gwredog Isaf
*Gwredog Uchaf
Roedd y tiroedd hyn i gyd (llawer ohonynt yn dir mynydd) yn cynnwys ychydig dros 4377 erw o dir, neu tua 6¾ milltir sgwâr (1771 hectâr neu 17.5 km sgwar).
Prif gyfoeth y darn hwn o'r ystad oedd Drws-y-coed a'r gwaith mwyngloddio a barhaodd hyd ddiwedd y 19g a thu hwnt.


{{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori:Ystadau]]
[[Categori:Ystadau]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 11:29, 18 Chwefror 2021

Roedd Ystad y Faenol wedi ei chanoli ar blwyfi Bangor a Phentir yn Isgwyrfai er bod cyn dipyn o dir ar draws plwyfi Uwchgwyrfai hefyd yn eido i'r ystad. Roedd hi'n un o'r ystadau mwyaf yn y sir hyd yn oed ar ôl i'r perchnogion werthu llawer o dir ddechrau'r 20g. Roedd chwarel Dinorwig yn rhan o'r ystad. Daeth diwedd ar yr ystad pan werthwyd y plas a'r parc ger Y Felinheli ddechrau'r 1980au, wedi i'r aelod olaf o deulu Assheton-Smith, Syr Michael Duff, farw. Teulu gwreiddiol y Faenol oedd teulu Williams, y bu farw Syr William Williams yn ddietifedd ym 1696, gan adael yr ystad i Frenin Lloegr[1] - a hynny am reswm na all haneswyr ei ddirnad. Nid oedd defnydd gan y Goron o ystad mor bellenig o'u safbwynt nhw, ond fel gwobr i anrhydeddu rhyw was ffyddlon neu'i gilydd, ac yn y man, John Smith, o Tedworth, Swydd Southampton, gafodd y wobr honno. Fel perchnogion o bell am flynyddoedd lawer cyn symud i blas y Faenol, ychydig o newid a fu i'r ystad.

Mae mapiau ac arolwg o'r ystad o 1777-8 yn dangos yn glir pa diroedd oedd yn perthyn i'r ystad.[2] Yn ogystal â llawer o dir o gwmpas yr ystad, roedd maenor Dinorwig, a thiroedd bur helaeth yn Llŷn - yn cynnwys hanner Nant Gwytheyrn, a thir ym mhob plwyf yn Uwchgwyrfai. Rhestrir isod enwau'r ffermydd yn Uwchgwyrfai - llawer ohonynt, sef tiroedd Plas Dinas wedi dod i feddiant yr ystad trwy briodas mam Syr William Williams, un o Fwcleiod Baron Hill, Biwmares, oedd yn berchen ar y tiroedd hynny:

Clynnog Fawr

Llanaelhaearn

  • Tyddyn Mawr

Llandwrog

  • Coed y Brain

Llanllyfni

  • Ffridd Baladeulyn
  • Talymignedd

Llanwnda

Roedd y tiroedd hyn i gyd (llawer ohonynt yn dir mynydd) yn cynnwys ychydig dros 4377 erw o dir, neu tua 6¾ milltir sgwâr (1771 hectâr neu 17.5 km sgwar).

Prif gyfoeth y darn hwn o'r ystad oedd Drws-y-coed a'r gwaith mwyngloddio a barhaodd hyd ddiwedd y 19g a thu hwnt.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XVaynol/7414
  2. Archifdy Caernarfon, XVaynol/4055