Y Garn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Irion (sgwrs | cyfraniadau) Dim crynodeb golygu |
BDim crynodeb golygu |
||
(Ni ddangosir y 2 olygiad yn y canol gan ddefnyddiwr arall) | |||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Y Garn.jpg|bawd|de|400px]] | [[Delwedd:Y Garn.jpg|bawd|de|400px|Y Garn o Lyn y Gader]] | ||
'''Y Garn''' yw copa | '''Y Garn''' yw copa mwyaf dwyreiniol [[Crib Nantlle]] ac mae ffin [[Uwchgwyrfai]] yn rhedeg drosto. 2080 troedfedd, neu 633 metr, yw ei uchder. O'r copa gellir gweld [[Dyffryn Nantlle]] ar ei hyd i'r gorllewin; ac i'r dwyrain, gwelir pentref [[Rhyd-ddu]], llethrau'r Wyddfa a [[Llyn y Gader]] islaw. Mae mynyddwyr yn ei gynnwys yn rhestr mynyddoedd Nuttall. | ||
Mae dwy garnedd, neu bentyrrau o gerrig, ger y copa. Mae un yn 42 troedfedd ar draws ac 8 troedfedd o uchder; mae'r llall rhyw ddeng llath ar hugain i'r de-orllewin, ac mae ddwy droedfedd yn llai o ran lled, a dim ond 6 troedfedd o uchder. Dichon bod y ddwy wedi cael eu chwalu rywbryd yn y gorffennol. Mae llawer iawn o gerrig rhydd ar draws y tir gwastad ger y copa, a gall y rheiny fod yn olion carneddau eraill.<ref>Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.212</ref> | |||
Ni ddylid cymysgu'r mynydd hwn gyda'r Garn, mynydd sy'n rhan o'r Glyderau. | |||
{{eginyn}} | {{eginyn}} |
Golygiad diweddaraf yn ôl 14:21, 16 Chwefror 2021
Y Garn yw copa mwyaf dwyreiniol Crib Nantlle ac mae ffin Uwchgwyrfai yn rhedeg drosto. 2080 troedfedd, neu 633 metr, yw ei uchder. O'r copa gellir gweld Dyffryn Nantlle ar ei hyd i'r gorllewin; ac i'r dwyrain, gwelir pentref Rhyd-ddu, llethrau'r Wyddfa a Llyn y Gader islaw. Mae mynyddwyr yn ei gynnwys yn rhestr mynyddoedd Nuttall.
Mae dwy garnedd, neu bentyrrau o gerrig, ger y copa. Mae un yn 42 troedfedd ar draws ac 8 troedfedd o uchder; mae'r llall rhyw ddeng llath ar hugain i'r de-orllewin, ac mae ddwy droedfedd yn llai o ran lled, a dim ond 6 troedfedd o uchder. Dichon bod y ddwy wedi cael eu chwalu rywbryd yn y gorffennol. Mae llawer iawn o gerrig rhydd ar draws y tir gwastad ger y copa, a gall y rheiny fod yn olion carneddau eraill.[1]
Ni ddylid cymysgu'r mynydd hwn gyda'r Garn, mynydd sy'n rhan o'r Glyderau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Comisiwn Henebion Cymru, ‘’Caernarvonshire’’, Cyf.2: Central (Llundain, 1960), t.212