Hela: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Hebog (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Dim crynodeb golygu
 
(Ni ddangosir y 11 golygiad yn y canol gan 2 ddefnyddiwr arall)
Llinell 1: Llinell 1:
Roedd '''hela''' yn rhan o fywyd pob dosbarth yn [[Uwchgwyrfai]] yn y gorffennol, er nad oedd fawr o hela am bleser heblaw am yr hyn a drefnwyd gan deulu [[Glynllifon]] drostynt eu hunain a'u ffrindiau lleol ac ymwelwyr a arhosai yn y Plas, gan gyflogi ciperiaid i sicrhau bod digon o ysglyfaeth. Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth llawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd [[John Thorman]] ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar.
Roedd '''hela''' yn rhan o fywyd pob dosbarth yn [[Uwchgwyrfai]] yn y gorffennol, er nad oedd fawr o hela am bleser heblaw am yr hyn a drefnwyd gan deulu [[Glynllifon]] drostynt eu hunain a'u ffrindiau lleol ac ymwelwyr a arhosai yn y Plas, gan gyflogi ciperiaid i sicrhau bod digon o ysglyfaeth.
Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon. Roedd Fferm y [[Warren]] ar [[Morfa Dinlle|Forfa Dinlle]] yn cael ei henwi ar ôl y gwningar a warchodid yn y tir tywodlyd. Roedd ystadau eraill yn gwarchod eu tiroedd a oedd o fewn ffiniau'r cwmwd, neu eu rhoi dan ofal un o'r sgweiriaid oedd yn cadw ciper. Yn llythyrau [[Ystad Glynllifon]]<ref>Archifdy Caernarfon, ''passim''.</ref> ceir nifer o geisiadau gan pobl canol dosbarth oedd yn awyddus naill ai i saethu dros dir Glynllifon nad oedd yn rhan o'r prif ystâd, neu yn cynnig "gwarchod" rhannau o dir yr ystad, gan dderbyn hawl i saethu yn sgîl hynny.


Serch ymdrechion y ciperiaid, nid oedd y tlodion ar ei hôl hi lle roedd ceisio bwyd os oeddynt yn cael y cyfle, ond erlynid llawer un am botsio eogiaid, ffesantod, cwningod ac ysfarnogod, os oedd y ciper yn cael gafael arnynt.
Serch ymdrechion y ciperiaid, nid oedd y tlodion ar ei hôl hi lle roedd ceisio bwyd os oeddynt yn cael y cyfle, ond erlynid llawer un am botsio eogiaid, ffesantod, cwningod ac ysfarnogod, os oedd y ciper yn cael gafael arnynt.


[[
==Difa fermin yn yr 17g.==
Ni fu helfa swyddogol "cotiau cochion", fel a geir yn Lloegr, yn yr ardal, yn mynd ar ôl yr holl lwynogod, a dichon i giperiaid Glynllifon gadw eu nifer i lawr ar dir eu ffermydd, ond yr oedd llwynogod yn bla yn y mynyddoedd, a rhaid oedd i ffermwyr lleol gymryd materion i'w dwylo eu hunain er mwyn gwarchod eu defaid. Gwelir yma llyniau o ffermwyr yn hela llwynogod ar [[Mynydd Tal-y-mignedd|Mynydd Tal-y-mignedd]] yn y 1930au. Sylwer mor uchel ar y mynydd y bu raid iddynt ddringo, lle roedd ffeuau'r llwynogod.
[[Delwedd:Lladd llwynogod.jpg|bawd|de|400px|Tystysgrif lladd llwynogod, plwyf [[Clynnog-fawr]], 1652]]
Yr oedd angen hela pla erioed, wrth gwrs, ac roedd y werin a ffermwyr mwy goludog fel ei gilydd yn mynd ati i geisio difa pláu megis llygod, ffwlbartiaid, llwynogod ac ati. Bu'n rheol am ganrifoedd y gallai rhywun a laddodd anifeiliaid ysgymun megis llwynogod fynd â'r cyrff i fynwent y plwyf, a byddai wardeiniaid y plwyf wedyn yn rhoi tystysgrif y gellid ei anfon at yr ynadon sirol a thrysorydd y sir - a'r rheiny wedyn yn awdurdodi taliad fel gwobr ac fel ad-daliad o gostau cadw cŵn. Dytma un enghraifft o 1652 (wedi'i chyfieithu)<ref>Archifdy Caernarfon, Dogfennau Llys Chwarter XQS/1652</ref>:
 
''Ni, wardeiniaid plwyf Clynnog, yn tystiolaethu trwy hyn y lladdwyd o fewn ffiniau'r plwyf y fermin a nodir isod yn ystod y flwyddyn 1652, a'u bod wedi eu cario i fynwent y plwyf dywededig. Rydym wedi tystio i hyn trwy osod ein llofnodion isod.
''15 Mai 1 llwynog
''2 Mehefin 3 llwynog
''8 Mehefin 2 lwynog
''25 Mehefin 4 cigfran
''    William Glynne
''    Hugh Johnsone 1652''
 
Mae'n debyg fod gan bob ardal ei harbenigwyr hela a fyddai'n falch o'r taliadau ariannol a gaed pan ddeuai llwyddiant. Ceir cofnodion am Thomas Lloyd, Simon Lloyd a William ap Robert, ill tri o blwyf Llanwnda, yn cadw cŵn hela a milgwn er mwyn hela llwynogod ac yn hela tiroedd Coed Alun (ym mhlwyf Llanbeblig), Crynnant (Llanwnda) ac [[Eithinog (trefgordd)|Eithinog]] ym mhlwyf Llanllyfni yn ogystal â thir comin ar y [[Mynydd Mawr]]. Awgryma hyn eu bod yn hela yn sgil cais neu drefniant. Mae'n debyg o'r dogfennau mai tymor hela llwynogod oedd hwyr y gwanwyn a dechrau'r haf.<ref>Archifdy Caernarfon, Dogfennau Llys Chwarter XQS/1652</ref>
 
==Y Ciperiaid==
 
Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth llawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd [[John Thorman]] ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar.
Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon. Roedd Fferm y [[Warren]] ar [[Morfa Dinlle|Forfa Dinlle]] yn cael ei henwi ar ôl y gwningar a warchodid yn y tir tywodlyd. Roedd ystadau eraill yn gwarchod eu tiroedd a oedd o fewn ffiniau'r cwmwd, neu eu rhoi dan ofal un o'r sgweiriaid oedd yn cadw ciper. Yn llythyrau [[Ystad Glynllifon]]<ref>Archifdy Caernarfon, ''passim''.</ref> ceir nifer o geisiadau gan pobl canol dosbarth oedd yn awyddus naill ai i saethu dros dir Glynllifon nad oedd yn rhan o'r prif ystâd, neu yn cynnig "gwarchod" rhannau o dir yr ystad, gan dderbyn hawl i saethu yn sgîl hynny.
 
==Hela llwynogod yn ystod y ganrif ddiwethaf==       
 
[[Delwedd:Hela llwynogod TMig.jpg|bawd|de|300px|Hela llwynogod ar diroedd Tal-y-mignedd Isaf a'r Ffridd. John Owen Jones, Tal-y-mignedd ar y dde; Goronwy Roberts, ewyrth [[Cefin Roberts]] ar y chwith]]
Ni fu helfa swyddogol "cotiau cochion", fel a geir yn Lloegr, yn yr ardal, yn mynd ar ôl yr holl lwynogod, a dichon i giperiaid Glynllifon gadw eu nifer i lawr ar dir eu ffermydd, ond yr oedd llwynogod yn bla yn y mynyddoedd, a rhaid oedd i ffermwyr lleol gymryd materion i'w dwylo eu hunain er mwyn gwarchod eu defaid. Gwelir yma llyniau o ffermwyr yn hela llwynogod ar [[Mynydd Tal-y-mignedd|Mynydd Tal-y-mignedd]] yn y 1930au. Sylwer mor uchel ar y mynydd y bu raid iddynt ddringo, lle roedd ffeuau'r llwynogod.
[[Delwedd:Hela llwynogod 2.jpg|bawd|chwith|350px|Hela llwynogod ar fynydd Tal-y-mignedd rywbryd cyn 1939; (Chwith-Dde:Goronwy Roberts, John Owen Jones, Arthur Jones, gof ym Mhen-y-groes a brawd-yng-nghyfraith JOJ)]]
 
==Hela am ddifyrrwch heddiw==
 
Ychydig o hela sydd wedi digwydd ers i oes y plasau ddirwyn i ben, er i ffesantod gael eu magu gan Goleg Glynllifon a rhywfaint o saethu wedi mynd ymlaen yno llai na hanner can mlynedd yn ôl. Heddiw, mae criw o bobl leol yn magu ffestantod ac yn trefnu dyddiau saethu ar y wastadedd rhwng [[Llandwrog]] a [[Pontlyfni|Phontlyfni]]. Bu saethu chwyaid gwylltion ar y Foryd hefyd yn y cyfnod diweddar. Rhaid cofio hefyd am bysgota. Mae Clwb Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni yn dal i ffynnu, yn ogystal â physgota ar sawl llyn yn y mynydd-dir - ac nid yw potsiwyr eog a sewin yn hollol ddiarth yng nghynteddau'r llys ynadon yng Nghaernarfon ychwaith!<ref>Gwybodaeth bersonol</ref>


  {{eginyn}}
  {{eginyn}}
==Cyfeiriadau==
==Cyfeiriadau==
{{cyfeiriadau}}
{{cyfeiriadau}}
[[Categori: ]]
[[Categori:Amaethyddiaeth]]
[[Categori:Hela]]

Golygiad diweddaraf yn ôl 09:36, 2 Chwefror 2021

Roedd hela yn rhan o fywyd pob dosbarth yn Uwchgwyrfai yn y gorffennol, er nad oedd fawr o hela am bleser heblaw am yr hyn a drefnwyd gan deulu Glynllifon drostynt eu hunain a'u ffrindiau lleol ac ymwelwyr a arhosai yn y Plas, gan gyflogi ciperiaid i sicrhau bod digon o ysglyfaeth.

Serch ymdrechion y ciperiaid, nid oedd y tlodion ar ei hôl hi lle roedd ceisio bwyd os oeddynt yn cael y cyfle, ond erlynid llawer un am botsio eogiaid, ffesantod, cwningod ac ysfarnogod, os oedd y ciper yn cael gafael arnynt.

Difa fermin yn yr 17g.

Tystysgrif lladd llwynogod, plwyf Clynnog-fawr, 1652

Yr oedd angen hela pla erioed, wrth gwrs, ac roedd y werin a ffermwyr mwy goludog fel ei gilydd yn mynd ati i geisio difa pláu megis llygod, ffwlbartiaid, llwynogod ac ati. Bu'n rheol am ganrifoedd y gallai rhywun a laddodd anifeiliaid ysgymun megis llwynogod fynd â'r cyrff i fynwent y plwyf, a byddai wardeiniaid y plwyf wedyn yn rhoi tystysgrif y gellid ei anfon at yr ynadon sirol a thrysorydd y sir - a'r rheiny wedyn yn awdurdodi taliad fel gwobr ac fel ad-daliad o gostau cadw cŵn. Dytma un enghraifft o 1652 (wedi'i chyfieithu)[1]:

Ni, wardeiniaid plwyf Clynnog, yn tystiolaethu trwy hyn y lladdwyd o fewn ffiniau'r plwyf y fermin a nodir isod yn ystod y flwyddyn 1652, a'u bod wedi eu cario i fynwent y plwyf dywededig. Rydym wedi tystio i hyn trwy osod ein llofnodion isod.
15 Mai 1 llwynog
2 Mehefin 3 llwynog
8 Mehefin 2 lwynog
25 Mehefin 4 cigfran
    William Glynne
    Hugh Johnsone 1652

Mae'n debyg fod gan bob ardal ei harbenigwyr hela a fyddai'n falch o'r taliadau ariannol a gaed pan ddeuai llwyddiant. Ceir cofnodion am Thomas Lloyd, Simon Lloyd a William ap Robert, ill tri o blwyf Llanwnda, yn cadw cŵn hela a milgwn er mwyn hela llwynogod ac yn hela tiroedd Coed Alun (ym mhlwyf Llanbeblig), Crynnant (Llanwnda) ac Eithinog ym mhlwyf Llanllyfni yn ogystal â thir comin ar y Mynydd Mawr. Awgryma hyn eu bod yn hela yn sgil cais neu drefniant. Mae'n debyg o'r dogfennau mai tymor hela llwynogod oedd hwyr y gwanwyn a dechrau'r haf.[2]

Y Ciperiaid

Roedd hi'n arfer chwilio am giperiaid ymhell o'r ardal, fel na fyddent yn dangos ffafriaeth i'w ffrindiau neu eu teuluoedd. Un o'r ciperiaid mwyaf llwyddiannus a wnaeth llawer i ddatblygu gerddi a thiroedd yr ystad ar gyfer hela a saethu oedd John Thorman ar ddaeth i Glynllifon ar 28 Hydref 1812 i ddechrau ar ei swydd fel cipar. Ganed ef yn Easingwold, Swydd Efrog tua 1783. Cadwodd ddyddiaduron sydd yn gofnod pwysig am yr ystad ar ddechrau'r 19g. Maent bellach yn Archifdy Caernarfon. Roedd Fferm y Warren ar Forfa Dinlle yn cael ei henwi ar ôl y gwningar a warchodid yn y tir tywodlyd. Roedd ystadau eraill yn gwarchod eu tiroedd a oedd o fewn ffiniau'r cwmwd, neu eu rhoi dan ofal un o'r sgweiriaid oedd yn cadw ciper. Yn llythyrau Ystad Glynllifon[3] ceir nifer o geisiadau gan pobl canol dosbarth oedd yn awyddus naill ai i saethu dros dir Glynllifon nad oedd yn rhan o'r prif ystâd, neu yn cynnig "gwarchod" rhannau o dir yr ystad, gan dderbyn hawl i saethu yn sgîl hynny.

Hela llwynogod yn ystod y ganrif ddiwethaf

Hela llwynogod ar diroedd Tal-y-mignedd Isaf a'r Ffridd. John Owen Jones, Tal-y-mignedd ar y dde; Goronwy Roberts, ewyrth Cefin Roberts ar y chwith

Ni fu helfa swyddogol "cotiau cochion", fel a geir yn Lloegr, yn yr ardal, yn mynd ar ôl yr holl lwynogod, a dichon i giperiaid Glynllifon gadw eu nifer i lawr ar dir eu ffermydd, ond yr oedd llwynogod yn bla yn y mynyddoedd, a rhaid oedd i ffermwyr lleol gymryd materion i'w dwylo eu hunain er mwyn gwarchod eu defaid. Gwelir yma llyniau o ffermwyr yn hela llwynogod ar Mynydd Tal-y-mignedd yn y 1930au. Sylwer mor uchel ar y mynydd y bu raid iddynt ddringo, lle roedd ffeuau'r llwynogod.

Hela llwynogod ar fynydd Tal-y-mignedd rywbryd cyn 1939; (Chwith-Dde:Goronwy Roberts, John Owen Jones, Arthur Jones, gof ym Mhen-y-groes a brawd-yng-nghyfraith JOJ)

Hela am ddifyrrwch heddiw

Ychydig o hela sydd wedi digwydd ers i oes y plasau ddirwyn i ben, er i ffesantod gael eu magu gan Goleg Glynllifon a rhywfaint o saethu wedi mynd ymlaen yno llai na hanner can mlynedd yn ôl. Heddiw, mae criw o bobl leol yn magu ffestantod ac yn trefnu dyddiau saethu ar y wastadedd rhwng Llandwrog a Phontlyfni. Bu saethu chwyaid gwylltion ar y Foryd hefyd yn y cyfnod diweddar. Rhaid cofio hefyd am bysgota. Mae Clwb Pysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfni yn dal i ffynnu, yn ogystal â physgota ar sawl llyn yn y mynydd-dir - ac nid yw potsiwyr eog a sewin yn hollol ddiarth yng nghynteddau'r llys ynadon yng Nghaernarfon ychwaith![4]

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Dogfennau Llys Chwarter XQS/1652
  2. Archifdy Caernarfon, Dogfennau Llys Chwarter XQS/1652
  3. Archifdy Caernarfon, passim.
  4. Gwybodaeth bersonol