Ysgoldy Ochr y Cilgwyn (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd ysgol Sul mewn tŷ yn y Cilgwyn ym 1847, neu ychydig cyn hynny gan aelodau yng Nghapel Tal-y-sarn (er i Hobley gofnodi'r dyddiad fel 1849)[1]. Ym 1847 cofnodwyd yn y Llyfrau Gleision fod 71 o ddisgyblion dan 15 a 33 dros 15 yn mynychu'r ysgol Sul hon.

Parhaodd yr achos am ychydig, ond cododd dadl ynghylch pa enwad oedd â hawl i'r lle, ac fe drodd yr achos yn achos gan yr Annibynwyr, a gododd Capel Cilgwyn (A).

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.191