Ynys Gachu

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ynys o graig ysgithrog oddi ar Drwyn y Tâl (neu Glogwyn y Morfa) uwchlaw pentref Trefor yw Ynys Gachu, a elwir hefyd yn Ynys yr Adar neu Ynys Fach - gan fod craig gyffelyb, ychydig mwy, gerllaw a elwir yn Ynys Fawr.

Mae'r "ynysoedd" hyn, sydd wedi eu herydu dros y blynyddoedd a'u gwahanu oddi wrth y clogwyn gan rym llanw a thrai a stormydd, wedi dod yn gynefin pwysig i amrywiaeth o adar y môr a'r arfordir. Gwelir sawl rhywogaeth o wylanod yma (gwylan benddu, gwylan gefn-ddu, gwylan lwyd a gwylan y penwaig), yn ogystal â mulfrain (neu filidowcars), gwylogod a llurs. Hefyd mae'r frân goesgoch brin yn cartrefu ar y creigiau hyn. Gyda'r fath niferoedd o adar yn cartrefu yno, yn arbennig yn ystod y cyfnod magu cywion, mae'r ynys wedi'i gorchuddio â'u baw llwyd-wyn, a dyna wrth gwrs darddiad yr enw Ynys Gachu.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau