Wynford Ellis Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Actor a chyfarwyddwr, ac yn ddiweddarach Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill, yw Wynford Ellis Owen (ganwyd 22 Ionawr 1948).

Bu'n byw yn Llansannan, Sir Ddinbych cyn symyd i Lanllyfni, lle bu ei dad, y Parch. Robert Owen, yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Coleg Addysg Cyncoed, Caerdydd a Choleg Cerdd a Drama Cymru. Aeth i weithio i'r BBC ym 1969.

Ymddangosodd mewn nifer helaeth o ddramâu unigol a chyfresi teledu a chyflawnodd lawer o waith actio yn y theatr hefyd. Mae'n enwog am greu ac actio'r cymeriad 'Syr Wynff ap Concord y Bos' a ymddangosodd yn y rhaglenni teledu plant Teliffant ac Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan (sef Mici Plwm). Creodd y gyfres gomedi teledu Porc Peis Bach ac actiodd gymeriad y gweinidog, Donald Parry, yn y gyfres honno. Bu'n gweithio'n ogystal fel cynhyrchydd teledu a theatr ac fel cyflwynydd (ceir rhestr gyflawn o'i waith yn yr erthygl arno yn Wicipedia).

Ers yn blentyn roedd wedi arbrofi gyda chyffuriau gan ddwyn meddyginiaethau ei fam ac oddi ar aelodau eglwys ei dad. Fel oedolyn bu'n gaeth am nifer o flynyddoedd i alcohol a valium. Cafodd driniaeth am ddibyniaeth yng nghanolfan Rhoserchan yn Aberystwyth a bu'n sobr er 22 Gorffennaf 1992. Bu'n hynod onest ac agored ynghylch ei salwch ac wedi tua 40 mlynedd ym myd y cyfryngau dychwelodd i goleg a graddiodd mewn Cwnsela Dibyniaeth yn 2008. Yna, ar 1 Hydref 2008 dechreuodd weithio fel Prif Weithredwr Cyngor Cymru ar Alcohol a Chyffuriau Eraill.

Datblygodd ganolfan gymunedol Stafell Fyw Caerdydd i roi cymorth a chefnogaeth i bobl gyda dibyniaeth ar gyffuriau yn ardal Caerdydd. Agorwyd y ganolfan yn 2011.Ymddeolodd o'i waith gyda Stafell Fyw Caerdydd ar 31 Awst 2017 ond gan barhau i weithio'n rhan-amser ar gynlluniau i agor canolfannau Stafell Fyw yng Nghaerfyrddin a Chaernarfon.

Fe'i hurddwyd i Orsedd y Beirdd gyda'r wisg werdd yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Ynys Môn 2017.

Mae'n briod â Meira ac maent yn byw yng Nghreigiau ar gyrion Caerdydd. Mae ganddynt ddwy ferch, Bethan, sy'n actores ac yn wyneb cyfarwydd ar Pobol y Cwm ers blynyddoedd, a Rwth.[1]

Cyfeiriadau

  1. Am ragor o fanylion gweler yr erthygl ar Wynford Ellis Owen yn Wicipedia.