William Jones, Llwy-pric
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Chwarelwr oedd William Jones oedd hefyd yn dyddynnwr yn Llwy-pric, Trefor, ar lethrau gogleddol mynyddoedd yr Eifl. Roedd ef yn un o weithwyr cynta'r chwarel ganol y 19eg ganrif.
Fe'i ganwyd yn Llangian, Llŷn, ym 1799 a daeth i fyw i Drefor (Hendre bryd hynny) pan briododd â Catherine Jones o Glynnog Fawr yn Arfon.
Cyfansoddodd nifer o gerddi, ac yn arbennig emynau, ond hyd y gwyddom dau bennill yn unig sydd wedi goroesi. Fe'u ceir yn Atgofion (heb eu cyhoeddi) Hugh Williams, Tai Newyddion, Trefor, mab Hugh Williams, Cwm (sydd am y terfyn â Llwy-pric). Dywedir y byddai gwraig H.W. Cwm "yn eu swnio'n aml".
Pennill 1 Dwy fflam ar ben Calfaria Gwrddasant yno 'nghyd - Fflam cariad at bechadur, Fflam goch o ddwyfol fyd. A'r mwg yn mynd i fyny Nes cyrraedd hyd y nen, A'r Iesu rhwng y ddwyfflam Yn marw ar y pren.
Pennill 2
Cofio 'rwyf yr awr ryfeddol, Awr wirfoddol oedd i fod, Awr a nodwyd cyn bod Eden, Awr a'i diben wedi dod. Awr wynebu ar un aberth, Awr y Duw i wirio'i nerth. Hen awr annwyl prynu cariad, Awr y gwaed, pwy ŵyr ei werth ?