Tyddyn Poythan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfeirir mewn dwy ffynhonnell, y naill o 1699 a'r llall o 1716, at annedd o'r enw Tyddyn Poythan ym mhlwyf Llanwnda (Casgliad Llanfair a Brynodol, LlGC). Mae wedi diflannu ers amser maith ac nid oes neb yn gwybod bellach lle roedd yn sefyll. Ni ellir ond dyfalu chwaith beth yw ystyr poethan. Mae'n bosib mai ffurf lafar ar Pothan sydd yma, gan fod Pothan/Bothan yn digwydd fel enw personol. Yn aml ceir enw personol ar ôl tyddyn ac efallai mai'r enw Pothan wedi ei lurgunio rhywfaint a geir yn enw Tyddyn Poythan. Fodd bynnag, mae pothan hefyd yn digwydd fel enw cyffredin yn golygu cenau blaidd neu flaidd ifanc. Ni ellir diystyrru'r posibilrwydd mai rhyw atgof am fleiddiaid a geir yn enw'r tyddyn hwn, er bod bleiddiaid wedi diflannu o Gymru ers oddeutu dwy ganrif cyn y ceir y cyfeiriad ysgrifenedig at y tyddyn dan sylw ym 1699.[1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.251-2.