Trychineb Bae Llanaelhaearn 1795
Ar y 6ed o Dachwedd, 1795, cododd storm sydyn ar Fae Caernarfon gan beryglu rhwydi penwaig nifer o bysgotwyr yr Hendref, yng ngwaelod plwyf Llanaelhaearn (nid oedd pentref Trefor yn bod bryd hynny). Roedd y rhwydi hyn wedi eu bwrw allan yn y bae ac wedi eu gadael yno dros dro gyda'r gobaith o gael helfa dda o bysgod. Byddai colli'r rhwydi yn y storm yn ergyd ddychrynllyd i'r pysgotwyr gan eu bod yr adeg honno o'r flwyddyn ynghanol y tymor penwaig. Penderfynasant nad oedd dim amdani ond ei mentro hi i'r môr cynddeiriog gyda'i gilydd mewn un cwch rhwyfo a cheisio'u gorau glas achub y rhwydi. Felly, dyna rwyfo allan i ddannedd y dymestl enbyd.
Ni chodwyd yr un rhwyd y diwrnod alaethus hwnnw gan i rywbeth llawer mwy gwerthfawr gael ei golli. Gwyliai perthnasau a chyfeillion y pysgotwyr y ddrama fawr oddi ar y lan - gweld eu hanwyliaid yn brwydro'n ddewr â'r tonnau geirwon. Yn ddisymwth, daeth ton anferth a dymchwel y cwch rhwyfo gan daflu yr wyth pysgotwr i ganol y dyfroedd cynddeiriog. Agorodd yr eigion ei safnau anhrugarog gan wybod na fedrai yr un ohonynt nofio, ac o fewn dim roedd y cyfan drosodd, a'r wyth pysgotwr druain wedi boddi. Maes o law, golchwyd eu cyrff i'r lan. Gadawyd gwragedd yn weddwon a phlant yn amddifaid ac ardal eang mewn galar mawr.
Cynhaliwyd chwe chwest ar yr wyth corff.
Tachwedd 10, ar aelwyd ei rieni yn y Sychnant, Tomos Salmon (Thomas Solomon), Cae Cropa, mab Salmon Tomos y Sychnant. Roedd yn dad i bump o blant mân, yr hynaf ohonynt ond yn wyth oed.
Tachwedd 7, William Owen a Gruffudd Robert ym Mhant y Ffynnon ;
Tachwedd 7, William Tomos yn Nhyddyn Hen ;
Tachwedd 10, Owen Robert, Parsel, ym Mhant y Ffynnon ;
Tachwedd 16, Morys Ifan yng Ngwydir Mawr ;
Tachwedd 21, William Robert yng Ngwydir Mawr ;
Tachwedd 24, Siôn Wiliam yn Nhan-y-coed.
Ysgubodd y newydd am y trychineb fel tân gwyllt trwy Gymru gyfan a bu beirdd o bob gradd yn canu marwnadau, galarnadau a baledi am y digwyddiad. Un o'r beirdd hyn oedd neb llai nag un o feirdd mwya'r Gymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Robert ap Gwilym Ddu (Robert Williams), Betws Fawr, Llanystumdwy. Yn ôl traddodiad, roedd yn bur 'gyfeillgar' â merch Gwydir Mawr ar y pryd. Yn ei gerdd mae'n enwi'r wyth a foddodd ac yn disgrifio'r sefyllfa arswydus mewn modd graffig dros ben. Rhybuddia'r darllenydd i fod yn barod am y blin diweddiad a'r Farn dragwyddol. Ni chyhoeddwyd y gerdd hon yn unman a gellir ei gweld mewn llawysgrif yn unig. Ei henw yw :
"CERDD Newydd a gyfansoddwyd yn achos Wyth o Wŷr a foddodd wrth Bysgotta Penwaig a'r Fay Llanhaiarn, Tach 6ed. 1795 ar King's Ffarwel,
Onid oes amser terfynedig i Ddyn ar y ddaear? Job 7:1 Dyddiau dyn sydd fel glas-welltyn. Salm 103:15"