Trum y Ddysgl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Trum-y-ddysgl o Fynydd Drws-y-coed. Llun:Gabby77, Wicipedia

Mae Trum-y-ddysgl yn un o fynyddoedd Crib Nantlle, rhwng Mynydd Tal-y-mignedd i'r gorllewin a Mynydd Drws-y-coed i'r dwyrain. Llifa Afon Tal-y-mignedd o'r creigiau serth ar lethr ddwyreiniol y mynydd.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestrau copaon arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa, gyda'r rhestrau gwahanol yn deillio fel rheol o enwau'r rhai a'u dyfeisiodd. Mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn, Hewitt a Nuttall. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwirio a chasglu'r rhestrau hyn ac fe'u cyhoeddir ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 709 metr (2326 troedfedd). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Mae olion tŷ crwn cynnar ychydig o dan frig y fraich serth o'r copa, yn wynebu'r dwyrain, sydd yn tystio i annedd yn uchel iawn yn y mynyddoedd. Tybed ai hafod neu gwt bugail o'r oesoedd cynnar ydyw, ond rhaid rhyfeddu at ei safle ddiarffordd.

 Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau