Tre Grwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Tre Grwyn ger Sarn Wyth-dŵr, ar yr hen ffordd gynt ar draws Dyffryn Nantlle o gyfeiriad Plas Tal-y-sarn i fferm Dolbebin ac ymlaen heibio Tan'rallt i eglwys Llanllyfni. Honnir mai ym 1662 y codwyd y rhes o fythynnod hyn, ond yn ystod ail hanner y 19g fe'i claddwyd o dan domen Chwarel Dorothea. Soniodd W.R. Ambrose am y traddodiad mai Guto Gethin, saer maen crefftus a gododd y bythynnod hyn.[1]

Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle (Pen-y-groes, 1872), t.97