Toda Ogunbanwo (Sage Todz)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rapiwr a chyfansoddwr caneuon rap o Gymro yw Sage Todz, a gafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Cafodd lawer o sylw yn y wasg Gymraeg ym Mawrth 2022 ar ôl iddo ryddhau fideo ohono ei hun yn rapio'n ddwyieithog.

Symudodd teulu Sage Todz (enw llawn Toda Ogunbanwo) o Essex i Ben-y-groes yn 2007. Bu raid i Sage ddioddef hiliaeth pan oedd yn ifanc ond dywedodd nad oedd wedi derbyn yr un fath o broblemau yng Nghymru. Symudodd ei deulu yno i gynnal eglwys yn hen adeilad Gwesty'r Llew Coch.

Aeth Sage i astudio chwaraeon yng Ngholeg Brunel, Llundain. Mae'n dweud bod yna lawer o wahaniaethau rhwng Llundain a Gwynedd wledig. Dechreuodd gyfansoddi math arbennig o rapio sef Drill. Mae 'Drill' yn is-genre o rap Prydeinig sydd yn defnyddio curiadau drymiau cyflym i greu cerddoriaeth egnïol. Mae'r arddull yn hanu'n wreiddiol o Chicago yn yr Unol Daleithiau ac mae trosedd, trais a thywyllwch realiti bywyd yn un o brif themâu'r genre.

Mae ei hunaniaeth Gymraeg a Chymreig yn bwysig iddo. Dywedodd "Mae'n ddarn o pwy ydyw i", gan ei fod wedi "byw yna [yng Nghymru] ers dros 15 o flynyddoedd a dwi'n siarad yr iaith."

Rhyddhaodd Sage fideo ar-lein ohono ei hun yn 'drilio' ei rap newydd "Rownd a Rownd" ym Mawrth 2022. Mae mwyafrif y darn yn yr iaith Gymraeg, ac fe ddaeth yn fideo boblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Hyd at Ebrill 2022 mae'r fideo wedi cael ei gweld dros 209,000 o weithiau ar Drydar.[1]

Cyfeiriadau

  1. Mae'r manylion hyn wedi eu codi o erthygl am Sage Todz ar Wicipedia [1], gyda pheth wybodaeth leol wedi ei chynnwys hefyd.