Thomas Wallace Fagan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Wallace Fagan (1874-1951) yn gemegydd amaethyddol ac arloeswr ym maes cemeg glaswellt.

Fe'i ganed 4 Chwefror 1874, yn fab i James Wallace a Katherine Fagan, yn Nhal-y-sarn, lle cadwai ei dad, a hanai o Lerpwl, siop Bryncelyn House.[1] Yn dilyn addysg gynradd yn yr ysgol leol aeth i ysgol Denstone ac yna i Goleg Gonville a Caius, Caergrawnt, lle graddiodd ym 1898. Wedi cyfnod byr yn athro cemeg yn ysgol uwchradd Abertyleri, aeth i astudio gyda'r athrawon amlwg Dobbie a Winter yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Fe'i penodwyd ym 1904 yn ddarlithydd yng ngholeg amaethyddol Harper Adams, swydd Amwythig ac oddi yno aeth yn ddarlithydd i adran amaethyddol Prifysgol Caeredin. Ym 1919 fe'i penodwyd ar staff Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, fel cynghorwr ym maes cemeg amaethyddol dan y Weinyddiaeth Amaeth dros siroedd cylch y coleg. Bum mlynedd yn ddiweddarach daeth yn bennaeth adran cemeg amaethyddol y coleg; fe'i dyrchafwyd yn Athro ym 1931, swydd y bu ynddi hyd ei ymddeoliad ym 1939.

Yn ystod yr ugain mlynedd rhwng 1919-39, gan gydweithio â Bridfa Blanhigion Cymru, daeth Fagan yn un o wyddonwyr amlycaf gwledydd Prydain ym maes cemeg glaswellt. Cyhoeddodd yn helaeth yn y maes hwnnw, gyda'i erthyglau arloesol yn ymddangos yn y Welsh Journal of Agriculture. Bu ei ddadansoddiadau manwl a chywir o werth amhrisiadwy i fridwyr planhigion wrth iddynt anelu at sicrhau bod tir glas yn cynnwys yr elfennau maethol gorau ar gyfer porthiant anifeiliaid. Parhaodd yn ymchwilydd diwyd hyd ddiwedd ei oes ond dywedir na chafodd gydnabyddiaeth deilwng am ei allu a'i waith arloesol, yn bennaf oherwydd ei fod yn ddyn swil a diymhongar a oedd yn amharod i wthio ei hun ymlaen a mynnu sylw. Bu farw yn Aberystwyth 10 Chwefror 1951 ac fe'i claddwyd ym mynwent y dref.[2]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanllyfni, 1881
  2. Seiliwyd ar erthygl yn Y Bywgraffiadur Cymreig 1951-1970, (Llundain, 1997), t.58.