Thomas Lloyd Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Trydydd mab John Jones, Tal-y-sarn oedd Thomas Lloyd Jones (1838-1888). Am flynyddoedd roedd yn brif asiant Chwarel Dorothea, lle magodd enw iddo'i hun fel pennaeth teg ar y gweithlu, ac ef a ddewiswyd yn llywydd cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru. Chwaraeodd ran amlwg ym mywyd yr ardal: bu'n aelod o Fwrdd Ysgol Pen-y-groes, Bwrdd Gwarcheidwaid Tlodion Caernarfon, ymddiriedolwr Cymdeithas Adeiladu Tal-y-sarn[1], ac roedd yn flaenor gyda'r Methodistiaid. Am gyfnod bu'n arolygwr gyda'r Awdurdod Iechydol Gwledig lleol. Roedd yn weithgar iawn gyda'r Blaid Ryddfrydol ac yn flaenllaw yng ngweithgareddau'r mudiad dirwest. Cafodd ei anrhydeddu gyda Chymrodoriaeth y Gymdeithas Ddaearegol Frenhinol (FRGS). Roedd yn deithiwr brwd ac yn ddarlithydd poblogaidd trwy Gymru gyfan, yn sôn am ei daith i Balesteina.

Ac yntau'n dal yn ddyn ifanc, cododd dŷ, Bryn Llywelyn, nid nepell o gartref a busnes ei rieni yn Nhal-y-sarn. Ymhen ychydig flynyddoedd, daeth y tŷ'n Westy'r Nantlle Vale. Bu'n byw wedyn mewn tŷ arall yn y pentref, Brynafon.

Bu farw 29 Rhagfyr 1888, gan adael un ferch a phedwar mab. Fe'i claddwyd yng nghist gladdu ei rieni ym mynwent Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni y dydd Iau canlynol, gydag oddeutu 2000 yn bresennol[2]. Gweinyddwyd y gladdedigaeth dan delerau'r Ddeddf Gladdu newydd a roddai hawl i weinidogion anghydffurfiol gladdu pobl mewn mynwentydd eglwysig heb i'r ficer ganiatáu hynny.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XM8298/29
  2. Daeth y rhan fwyaf o ffeithiau'r erthygl hon o'r Carnarvon & Denbigh Herald, 4.1.1889, t.5