Thomas Ellis yr Hafod

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Ellis (c.1738-1804) yn un o arloeswyr Methodistiaeth ym mro'r Eifl ac yn gynghorwr a phregethwr cynorthwyol. Ffermio'r Hafod ar lethrau Carnguwch, uwchben Llanaelhaearn, a wnâi am ei fywoliaeth. Ganed ef tua 1738 a bu farw 30 Tachwedd 1804 a'i gladdu ym mynwent eglwys Carnguwch. Dywedir iddo gael troedigaeth wrth wrando ar bregeth ym Mhwllheli ac iddo droi at Fethodistiaeth yn fuan wedyn, ac fe'i henwir ymhlith y rhai a oedd yn bresennol yn y Sasiwn a gynhaliwyd ym Mhwllheli ddiwedd Medi 1791. Roedd traddodiad ei fod yn dlawd a bod ei wraig mor grintachlyd fel y byddai'n ei rwystro rhag golau cannwyll i ddarllen ei Feibl hyd yn oed. Fodd bynnag, yn ei ewyllys a brofwyd 18 Rhagfyr 1804, gadawodd y rhan fwyaf o'i eiddo i "my beloved wife, Margrt Griffith", ac roedd cyfanswm ei eiddo yn £83 19s 6c, a oedd yn swm sylweddol bryd hynny. Byddai'n cynghori aelodau mewn seiadau lleol ac yn pregethu'n achlysurol er nad oedd ganddo lawer o ddawn fel pregethwr. Arferid credu mai ef oedd awdur y pennill sy'n dechrau "Galaru 'rwyf mewn dyffryn du" ond mae amheuaeth ynghylch hynny bellach gan fod y pennill wedi'i gyhoeddi yn Cyfaill mewn Llogell, Siôn Singer.[1] Beth bynnag am hynny, dyma'r pennill fel y ceir ef yn Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd 1896[2] gyda'r llythrennau T.E. o dano:

 Galaru 'rwyf mewn dyffryn du,
 Wrth deithio i dŷ fy Nhad;
 Ar ben y bryniau'n llawenhau
 Wrth weled cyrau'r wlad:
 'Rwy'n ddu fy lliw, a'm gwisg yn wen:
 'Rwy'n llawen ac yn brudd;
 'Rwy'n agos iawn, ac eto 'mhell;
 'Rwy'n waeth, 'rwy'n well, bob dydd. 

Cyfeiriadau

  1. Goronwy P. Owen, Methodistiaeth Llŷn ac Eifionydd, (Henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, 1978), t.113.
  2. Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd, (Caernarfon, 1896), Emyn 556, t.126.