Thomas Augustus Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Thomas Augustus Jones (m. 1910) yn gurad ym mhlwyf Llanaelhaearn o 1892 hyd 1903.

Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Frenhines, Birmingham ac fe'i hordeiniwyd yn ddiacon ar 11 Mehefin, 1892, ac yn offeiriad ym 1902.

Bu'n gurad yn Nhrefdraeth o 1903 hyd 1905, ac yn gurad mewn gofal yn Llanrug o 1905 hyd 1908. O 1908 bu'n rheithor Llanfihangel-y-Pennant, ond bu farw ym mlodau'i ddyddiau ym 1910.

Roedd yn gynganeddwr hylaw hefyd a chofnodir yr englyn canlynol o'i waith tra'n gurad ym mhlwyf Llanaelhaearn - englyn i Thomas Hughes, Cae Glas, Llanaelhaearn, Clerc Chwarel yr Eifl, Trefor.

Beunydd fel llywydd llawen - cawn Thomas
      Yn teimlo dros angen;
      Nid ei nod yw bod yn ben - ond haeddiant
  A dwyn rhyw lesiant â'i dyner elusen.