Telyrniau

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ger safle Tyrpeg Gelli ar dir fferm Gelli-ffrydiau oedd Telyrniau, a hynny tua chanol y 18g. Dywedir mai'r dafarnwraig oedd Marged Uch Ifan, y ddynes chwedlonol ddawnus a chryf honno. Roedd hynny yn ystod y cyfnod y bu'n byw yn Nyffryn Nantlle, efallai am rai blynyddoedd wedi 1760.[1]. Honnir y byddai Marged yn chwarae ei thelyn a'i chrwth o flaen y drws a'r cwsmeriaid yn dawnsio o'i chwmpas pan oedd yr hin yn caniatáu.[2]

Lluosog "talwrn" (a all olygu cwt neu glôs ymladd ceiliogod) yw "talyrnau", ac mae'n bosibl mai dyna ystyr Telyrniau. Byddai hynny'n gydnaws â man lle gwerthid diod.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. David Gwyn, The Queen of the Lake: Margred Ferch Ifan yn Trafodion Cymdeithas Hanes Sir Gaernarfon, Cyf.79 (2023)< tt.14-25
  2. W.R. Ambrose, Hynafiaethau, Cofiannau a Hanes Presennol Nant Nantlle (Penygroes, 1872), t.59