Syr William Wynn
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Roedd William Wynn (1679-1754), Boduan, yn frawd iau i Syr John Wynn, Boduan ac wedyn Glynllifon, a fu'n aelod seneddol Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon, (1713-1749). Ar fawrolaeth Syr John, cymerodd William Wynn y sedd drosodd hyd ei farwolaeth yntau ym 1754. Cafodd ei wneud yn farchog ym 1727, wedi iddo ddilyn ei frawd fel gwastrodydd (equerry) i fab y Brenin, a ddaeth yntau'n frenin (sef Sior II) ar farwolaeth ei dad. Bu hefyd yn gwnstabl Castell Harlech o 1716 hyd ei farwolaeth. Bu'n ddi-briod, a sicrhaodd hynny holl ystadau Boduan i deulu ei frawd. Yn ystod ei oes, edrychodd ar Blas Boduan fel ei gartref.[1]