Stryd Sychnant, Trefor
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Mae Ffordd Sychnant yn ffordd bengaead sydd yn troi oddi ar Lôn yr Eifl ym mhentref Trefor. Mae holl dai gwreiddiol y stryd yn nodedig oherwydd eu toeau teils coch, yn wahanol i bron y cyfan o dai'r pentref, sydd wedi eu toi â llechi. Fe'u codwyd, meddir, gan gwmni'r chwarel ar gyfer stiwardiaid y gwaith, ac am y rheswm hwnnw cawsant y llysenw "Boss town" - sydd wedi mynd yn "Boston" i bob pwrpas ar lafar. (Oddeutu'r un adeg codwyd pedwar byngalo arall gyda thoeau teils coch ar gyrion tyddyn Bryn Gwenith ynghanol y pentref, yn ogystal â rhes o bedwar tŷ toeau cochion ym mhen draw Croeshigol, gerllaw tai cyngor Maes Gwydyr, a adeiladwyd yn ddiweddarach.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth leol gan gyn-breswylydd