Simon Hobley
Sais oedd Simon Hobley a anwyd yn Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd yn fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.[1]
Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Gyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg grefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.
Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig. Gellir tybio efallai iddo ddod yno trwy ryw gysylltiad efo ficer newydd Caernarfon a benodwyd ym 1817 (a Sais pur yr achosodd ei benodiad gryn anfodlonrwydd), sef y Parch J.W. Trevor, MA. Symudodd Simon Hobley ymhen amser i weithio fel hwsmon ar fferm yn Llanwnda, o bosibl fferm Plas Dinas, a thra yno fe aeth i wrando weithiau ar y Methodistiaid ac weithiau ar bregethwyr yr Annibynwyr. Yn ystod yr amser hwnnw, priododd â Margaret, merch Tafarn y Llew Coch yng Nghaernarfon ac un o ddisgynyddion Angharad James, Gelli-ffrydiau, Nantlle[2]. Dichon i aelodau o deulu Hobley fyw yn Gelli-ffrydiau am gyfnod ac yno y ganed William Hobley ei ŵyr. Marc defaid Gelli-ffrydiau yw H, a dywedir mai oherwydd cyfenw'r teulu y mae hynny.[3]
Arferai Margaret redeg busnes blawd a phan oedd Simon Hobley yn 36 oed rhoddodd ei waith fel hwsmon heibio gan ymuno ym musnes y wraig. Roedd yn magu diddordeb mawr yn y ffydd Gristnogol ac arferai fynychu pregethau a chyfarfodydd gweddi'n gyson. Enillodd enw da hefyd fel dyn busnes egwyddorol. Trwy gyfrwng y busnes mae'n amlwg iddo ddod yn ŵr cefnog, gan ymddeol i dŷ sylweddol Graeanfryn yn Llanwnda, lle'r ymunodd ag achos Capel Bryn'rodyn (MC). Ef i raddau helaeth oedd tu ôl i'r fenter i godi Ysgoldy Graeanfryn (MC), gan roi tir ac arian at y gwaith o'i godi.
Bu farw 4 Awst 1879.
Er iddo ddod i Gaernarfon yn Sais pur (a throdd ambell i bregethwr at yr iaith fain yn ei bregeth er ei fwyn), daeth yn Gymro hollol rugl, gan fynychu oedfaon Cymraeg, ac roedd yn hollol gyfarwydd â'i Feibl yn y ddwy iaith yn ôl tystiolaeth ei wŷr, y Parch. William Hobley.[4]