Sianel Gwŷr Nefyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Siart Lewis Morris yn dangos Sianel Gwŷr Nefyn

Sianel Gwŷr Nefyn yw'r enw ar y sianel i'r de o Gefnen Dywod Creigiau Gleision (neu Mussel Bank) a Chefnen Dywod Ddeheuol Abermenai oddi ar draeth Dinas Dinlle, a dyma oedd y llwybr byrraf i'r rhai oedd yn hwylio o Nefyn i borthladd Caernarfon.[1] Fe'i dangosir ar fap Lewis Morris (1748). Arferai nifer o gychod hwylio ar hyd yr arfordir, yn arbennig cyn dyddiau'r ffyrdd tyrpeg, gan ei bod yn haws cludo nwyddau trymion ar ddŵr cyn i'r ffyrdd gael eu gwella.

Sianel Gwŷr Nefyn oedd enw morwyr Caernarfon a'r ardal am y sianel hon, ond i forwyr Nefyn, Afon Caernarfon neu Lôn Caernarfon oedd yr enw arni.[2]

Cyfeiriadau

  1. J. Richard Williams, Croesi i Fôn, ((Llanrwst, 2017), t.22.
  2. Ifor Dylan Williams, Enwau arfordirol y Fenai yn Gareth Bevan ac eraill (golygyddion), Ar Drywydd Enwau Lleoedd (Tal-y-bont, 2021), tt.178-9