Sgwrs Defnyddiwr:Sgilffan1

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Berth Ddu Bach

Cysylltir tyddyn Berth Ddu Bach â sefydlu Methodistiaeth gynnar yn ardal Clynnog Fawr. Mae sawl rheswm am hynny sef ymweliadau mynych Hywel Harris â'r ardal, agosrwydd Llŷn ac Eifionydd, dylanwad Richard Nanney (ficer Clynnog) a chydymdeimlad rhai o deuluoedd pwysig yr ardal â'r Methodistiaid. Cynhaliwyd y seiat gyntaf ym Mherth Du Bach yn 1750 ac mae'n debyg i Hywel Harris alw yno yn ystod ei deithiau pregethu rhwng 1749 a 1751. Hefyd, un o uchelwyr yr ardal oedd Hugh Evans, Berth Ddu ac ynghyd â Hugh Griffith, Y Foel, rhoddodd gryn gefnogaeth i seiadwyr Berth Ddu Bach.

I barhau....