Sgwrs Defnyddiwr:Gwyndaf Hughes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dwi di sganio Enwau Lleoedd Syr Ifor gan greu ffeil PDF chwiliadwy. Mae'r ffeil yn gywir i'r llyfr - h.y. y sillafiadau fel yn y llyfr ac wedi ceisio cadw at y ffontiau gwreiddiol, wel mor agos ag y gallwn. Dwi ddim am ei rannu (y ffeil) nes y byddaf yn sicr nad ydw i'n torri hawlfraint. Oes yna rhywun allan acw yn gwybod be di'r sefyllfa ynglŷn a hawlfraint y llyfr?

Hawlfraint

Yn gyntaf, Gwyndaf Hughes, croeso mawr i Cof y Cwmwd. Gobeithio y cawn edrych ymlaen at gyfraniadau gwerthfawr gennych at gynnwys yr wefan.

Rydych yn holi am yr hawl i atgynhyrchu Enwau Lleoedd Syr Ifor Williams. Nid wyf yn gyfreithiwr ond fel cyn archifydd fu'n gorfod ymdopi â'r rheolau'n aml, dyma fy nealltwriaeth o'r sefyllfa. Bu Syr Ifor farw ym 1965 a chan fod gwaith pobl yn cael eu gwarchod dan ddeddfau hawlfraint am 70 mlynedd wedi eu marwolaeth, ni fydd caniatâd i atgynhyrchu talpiau mawr o'i waith tan 2035. Mae ddwy ffordd ymlaen os ydych am 'gyhoeddi' peth o'i waith (ac mae rhoi ar wefan gyfystyr achyhoeddi traddodiadol): 1. Gofyn caniatâd y teulu. Credaf mai Mr Sion Caffell yw'r person i gysylltu ag ef. Fel cyn-lyfrgellydd bydd yn deall y sefyllfa, 2. Mae hawl gan rywun ddyfynnu darnau rhesymol (brawddeg neu ddwy ar y tro) at ddibenion adolygu neu gymharu mewn cyd-destun academaidd, gan ychwanegu gwybodaeth mewn geiriau newydd y dyfynnwr/awdur y gwaith newydd. Wrth gwrs, nid oes unrhyw hawlfraint ar ffeithiau ac nid oes hawlfraint ychwaith ar aralleiriad, belled nad yw'n rhy agos at fod yn ddyfyniad.

Gobeithio y bydd hyn yn help i chi. Ni fyddai sgan yn gyfreithlon felly, ond gellid dyfynnu talpiau bach neu eu haralleirio.

Heulfryn (sgwrs) 08:45, 9 Ebrill 2018 (BST)