Sam Roberts
Saer coed oedd Samuel Roberts yn gweithio yn Chwarel yr Eifl, Trefor. Ef oedd fforman y seiri coed yn y Gwaith.
Fe'i ganwyd ym 1861 yn Llanrwst a daeth i Drefor o Lanfairfechan. Ym 1880 priododd ag Elizabeth Williams, athrawes yn Ysgol Trefor, a chwaer John Evan Williams, prifathro cynta'r ysgol ym 1878. Roedd Sam Roberts yn aelod selog o Eglwys San Siôr, Trefor ac yn un o'r rheiny a fu'n amlwg yn y symudiad i adeiladu'r eglwys yn y cyfnod 1879-81. Bu'n byw am y cyfnod dechreuol o'i briodas yn Nhŷ'r Ysgol yn Nhrefor, tŷ oedd yn rhan o adeilad yr ysgol.
Roedd yn denorydd o gryn fri pan oedd yn ifanc a chanai'n rheolaidd mewn cyngherddau. Yn ogystal, roedd yn fardd pur dda ac yn gynganeddwr medrus. Un o'i gyfeillion pennaf yn Nhrefor oedd Henry T. Jones, 2 Farren Street, ac roedd y ddau yn aelodau blaenllaw o'r Fyddin Ddirwestol. Bu farw Henry'n ŵr ifanc yn Rhagfyr 1888, a chyfansoddodd Sam Roberts dri englyn er cof amdano.
Ei daro gadd Harri dirion - ow, sydyn Ymosodiad creulon; Dwyn ymaith ieuanc, llanc llon, O'r golwg, braw i'r galon.
Yn wastad ffyddlon ddirwestwr, - selog Dros hawliau'r gwrthodwr; Y cyntaf oedd fel cantwr I yrru'n dân - rin y dŵr.
Yn y côr fel byddai'n canu, - arwydd Gwna'i orau er dysgu; I uwch man gyda'i gân gu; E' groesodd at gôr Iesu.
Cyn diwedd y ganrif fe ymfudodd Samuel Roberts, fel llawer iawn o'i gyd-weithwyr, i America.