Robert Jones, Rheithor Llandwrog
Roedd Robert Jones (?-1667) yn rheithor Llandwrog yn ystod cyfnod cythryblus yn hanes yr eglwys.
Cafodd Robert Jones ei gyflwyno i’r plwyf pan oedd hen drefn Eglwys Loegr mewn grym ym 1637. Ar ôl i’r Senedd ennill y Rhyfel Cartref a sefydlu trefn Biwritanaidd, bu holi manwl ynglŷn ag agwedd offeiriaid at y newid. Os nad oeddynt yn fodlon plygu i’r drefn newydd o addoli, cawsant eu troi o’u plwyfi. Dyna a ddigwyddodd i Robert Jones ym 1652. Anfonodd gais i’r awdurdodau am gael ei adfer i’w blwyf ac ymhen dau fis cytunwyd y câi ddychwelyd fel rheithor; rhaid ei fod wedi llyncu ei egwyddorion a phlygu i’r drefn. Bu farw Oliver Cromwell ym 1658, ac fe’i holynwyd gan ei fab Richard. Ymysg y rhai o Sir Gaernarfon a lofnododd lythyr yn llongyfarch Richard, ceir enw Robert Jones, “minister” (sef y term a ddefnyddiwyd gan y Piwritaniaid). Ond ymhen dwy flynedd, a chyfnod y Rhyngdeyrnasiad yn dod i ben wrth i fab Cromwell ildio'r awenau a’r brenin Siarl II ddychwelyd i Loegr - hynny ym 1660 - trowyd y gweinidogion a sefydlwyd gan y Piwritaniaid o’u plwyfi yn eu tro. Derbyniodd nifer y drefn newydd a chadw eu swyddi, ac yn eu mysg, Robert Jones, a oedd ddwy flynedd ynghynt yn ymhyfrydu yn yr olyniaeth Biwritanaidd.[1]
Dyn oedd yn meddwl mwy am ei swydd a’i statws oedd Jones mae’n debyg nac am fanylion diwinyddol yr eglwys a wasanaethai. Ond cyn ei feirniadu, dylid nodi nad oes tystiolaeth ar gael fod ei blwyfolion ddim dicach oherwydd ei newid ochr ac, yn wir, bu rhai o’r bonheddwyr lleol fel Edmund Glynn, Hendre, yr un mor barod i symud gyda’r oes. Bu farw Robert Jones 22 Hydref 1667, yn weddol annisgwyl o bosibl, ar ôl gwasanaethu ei blwyf am 30 o flynyddoedd. Ni adawodd ewyllys, ond derbyniodd ei wraig Jane Jones lythyr gweinyddu ar gyfer ei eiddo, a gorchymyn i gael rhestr ohono.
Mae’r rhestr eiddo yn tystio i ffordd o fyw Robert Jones a’i wraig. Roedd cyfanswm yr eiddo yn werth £61.10.6c. i gyd, swm digon parchus y pryd hynny. Roedd ei ddillad, arian a llyfrau yn werth £10. Roedd swm dodrefn ei dŷ yn weddol helaeth, gyda phedwar gwely, 6 matres blu, a 12 pâr o gynfasau. Yn y gegin yr oedd ystod helaeth o eitemau ar gyfer coginio, a phedwar plât ar ddeg. Ond yr hyn a ddangosodd mai dyn o dras ydoedd oedd nifer o lwyau arian a thancard arian gwerth £5. Er nad ydym yn gwybod dim o hanes ei deulu, mae ymchwil wedi dangos mai bonheddwyr o safon weddol uchel yn unig oedd yn meddu ar bethau arian. Dichon felly bod Robert Jones yn fab iau un o blastai Cymru. Serch hynny, nid oedd ei dŷ’n fawr. Yn y rhestr o’r rhai a oedd yn gorfod talu’r Dreth Aelwyd ym 1662, nodir nad oedd ganddo ond un aelwyd, tra bod nifer o fonheddwyr â dwy, tair neu fwy yn eu tai hwythau.[2]
Yn ogystal â’r eitemau yn y tŷ, roedd gan Robert Jones nifer o wartheg ac mae’n amlwg ei fod yn tyfu ŷd hefyd. Roedd ganddo bedair buwch, heffer a phump o fustych, a fyddai’n cyflenwi llaeth, caws a menyn. Yr arferiad oedd i ffermwyr werthu’r bustych trwy eu hanfon i Loegr gyda’r porthmyn, ond dichon mai ar gyfer tynnu aradr a chael eu lladd i’w bwyta oedd bustych y rheithor, gan fod twb ar gyfer halltu cig eidion (eitem ddigon prin) ymysg ei offer cegin. Yn ei ysgubor yr oedd pedair tas o wenith, haidd a rhyg a cheirch heb eu rhoi mewn tas, a dwy das ychwanegol o ryw fath o ŷd mewn ysgubor arall.
Mae plwyf Llandwrog yn ardal fawr a dichon y byddai angen cryn dipyn o deithio ar y rheithor, yn ogystal â theithio i’r dref a mannau eraill. Dim syndod felly fod ganddo geffyl a chaseg at ei ddefnydd ef a'i wraig. Roedd y ddau anifail gyda'i gilydd yn werth £2.10.0c.
Rhaid oedd iddi gael gwarantwr i sicrhau y byddai’n gweinyddu’r eiddo mewn ffordd gywir, a’r gŵr a gytunodd i hynny oedd William Spicer, bonheddwr o dref Caernarfon, a oedd, mae’n debyg, yr Uwch-gapten William Spicer a fu’n amddiffyn Castell Caernarfon yn erbyn lluoedd y Senedd. Roedd Spicer ymysg y pedwar dyn a restrodd yr eiddo (a'r rheiny i gyd, fel Jane Jones, yn gwbl lythrennog, a barnu oddi wrth eu llofnodion hyderus). Diddorol yw gweld sut roedd y rhaniadau rhwng plaid y Brenin a phlaid y Senedd, a rhwng yr Eglwyswyr traddodiadol a’r Piwritaniaid, wedi eu tawelu.[3]
Fe’i holynwyd fel rheithor Llandwrog gan Rice Williams, M.A. a chyflwynwyd hwnnw i’r plwyf 9 Mawrth 1668.[4] Ysywaeth, ni ddaliodd y swydd yn hir gan iddo yntau farw ym 1671.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ Thomas Richards, ‘’Religious Developments in Wales, 1654-1662’’, (Llundain, 1923), tt.276-7; Arthur Ivor Pryce, ‘’The Diocese of Bangor During Three Centuries’’, (Caerdydd, 1929), t.160.
- ↑ Archifdy Caernarfon, XQS/Asesiad Treth Aelwyd 1662.
- ↑ LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1667-67.
- ↑ Arthur Ivor Pryce, ‘’The Diocese of Bangor During Three Centuries’’, (Caerdydd, 1929), t.4.
- ↑ LlGC, Dogfennau Profiant Bangor, B1671-64.