Rhyd y meirch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rhyd y meirch yw enw'r hen ryd dros Afon Foryd ar y ffordd drol (a'r llwybr cyhoeddus) sydd yn rhedeg o fferm Cefn Emrys i lawr at ymyl Morfa Dinlle ac ymlaen dros y morfa yn hollol syth nes cyrraedd traeth Dinas Dinlle. Wrth ochr y rhyd y mae pompren (sef pont ar gyfer cerddwyr yn unig). Dichon mai ar adeg cau'r morfa rhag y môr y crëwyd y rhyd.