Rheilffyrdd Prydeinig

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rheilffyrdd Prydeinig oedd yr enw a roddwyd ar y rheilffordd wladoledig ledled Prydain. Fe ffurfiwyd y corff hwn ym 1947 pan wnaeth y Llywodraeth Lafur gymryd y rheilffyrdd drosodd a'u troi'n eiddo cyhoeddus. Rhaid oedd gwneud hyn, meddid, oherwydd cyflwr y rheilffyrdd ar ôl chwe mlynedd caled o ryfel - roedd y rheilffyrdd wedi'u gwisgo allan i raddau helaeth.

O 1947 hyd ddiwedd oes y rheilffordd fawr yn Uwchgwyrfai ym 1965, Rheilffyrdd Prydeinig oedd yn gyfrifol am reilffyrdd y fro. Gwelwyd rhai datblygiadau, fel y trenau hir a gludai pobl ar eu gwyliau ar hyd y lein yn y 1950au a'r 60au cynnar o Fanceinion, Lerpwl a lleoedd cyffelyb i wersyll Butlin's ym Mhenychain. Bu'n arfer hefyd ddefnyddio'r lein yn y 1950au ar gyfer tripiau cylchynnol, sef Mordeithiau Tir Sych (land cruises) a redai o'r Rhyl, trwy Gorwen, Dolgellau, Porthmadog, Caernarfon, Bangor a Bae Colwyn cyn cyrraedd yn ôl yn y Rhyl. Gelwid y trên hwn yn 'drên radio' gan fod yna system i chwarae miwsig yn y coetsis i ychwanegu at bleser y teithwyr!