Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy

Oddi ar Cof y Cwmwd
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Pysgodfa Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy o ganlyniad i Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid 1865[1] i reoli pysgota am eogiaid rhwng Trwyn-y-tâl ger Trefor a Phwynt Garth, Bangor, ynghyd ag aberoedd ac afonydd Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy a'u holl flaen-nentydd a llednentydd. Roedd yr ardal i gynnwys hanner Afon Menai ar ochr Sir Gaernarfon o Abermenai ymlaen. Wrth i'r ardal gael ei phennu, lleisiwyd pryderon gan dirfeddianwyr fod y cynllun yn cynnwys llawer o lednentydd a oedd â hawliau pysgota cwbl breifat arnynt, ac y byddai hynny'n achosi trafferth mawr i fwrdd y bysgodfa. Serch hynny, a Spencer Bulkeley, 3ydd Arglwydd Newborough yn gadeirydd y Llys Chwarter a oedd â'r cyfrifoldeb o weithredu'r ddeddf a sefydlu'r bwrdd, fe basiwyd i dderbyn yr argymhelliad yn llawn.

Gosodwyd tymor atal pysgota eogiaid gyda rhwydi a gwialenni pysgota gan y bysgodfa rhwng 1 Chwefror a 30 Ebrill bob blwyddyn.

Ym 1875, er gwaethaf pryderon y gallai ardal ehangach fod yn anodd i'w gweinyddu o ran pysgota eogiaid, ehangwyd ardal y bysgodfa i gynnwys arfordir gogledd-orllewinol Afon Menai ar ei hyd ac arfordir Ynys Môn hyd at Falltraeth.[2]

Ym 1889, erlynodd Bwrdd Cadwraethwyr Ardal Bysgota Seiont, Gwyrfai a Llyfnwy dri o ddynion, D.Roberts, J.Thomas ac O.W.Williams, a honnai fod ganddynt hawl i bysgota ar Lyn Nantlle gan fod y llyn yn dir comin, ac felly y tu allan i diriogaeth y Bwrdd. Cawsant eu hamddiffyn yn Llys Ynadon Caernarfon gan David Lloyd George.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Mae copi o'r ddeddf ar gael i'w ddarllen yma:[1]
  2. Archifdy Caernarfon, XPlansS/9
  3. Archifdy Gwladol, LG/A/6/3/4; North Wales Observer, Mai 1889.