Pont Tŷ Nant

Oddi ar Cof y Cwmwd
(Ailgyfeiriad o Pont Tŷ'n-y-nant)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Tŷ Nant, neu Pont Tŷ'n-y-nant, yn croesi Afon Llifon ym mhlwyf Llandwrog ger y tŷ o'r un enw ar Lôn Cefn Glyn, sef y lôn sy'n mynd ar draws rhwng y ffyrdd sy'n arwain at Bwllheli a Phenmorfa. Dichon mai'r bont dan y ffordd a guddir gan Wal Glynllifon ger Pen'rallt[1] yw'r un y cyfeirir ati mewn dogfennau. Ym 1837 adeiladwyd pont newydd sbon ar y safle yn lle'r bont a oedd yno gynt a hynny i gynllun a wnaed gan John Lloyd, syrfewr y sir. Yr adeiladwr oedd Thomas Humphreys, Plas Mawr, Y Groeslon, ffermwr lleol, a thalwyd £69 am y gwaith. Diddorol yw sylwi, er bod cynllun a manyleb wedi eu paratoi ar gyfer y gwaith, nid oedd Humphreys yn gallu llofnodi'r dogfennau gan ei fod yn anllythrennog. [2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XD88/1/2
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/46